Côr gafodd ei golli yn y Rhyfel Mawr yn ysbrydoli drama
- Cyhoeddwyd
Bydd drama sy'n adrodd hanes côr gollodd pob un o'i aelodau oni bai am un yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn cael ei pherfformio er mwyn codi arian ar gyfer mudiadau sy'n cynorthwyo cyn-filwyr.
Mae Dinner with Otto yn adrodd hanes milwr o Rosllannerchrugog - Samuel Evans - sef yr unig un o aelodau côr 17eg bataliwn y Ffiwsilwyr Cymreig i oroesi'r rhyfel.
Roedd y côr i fod i ganu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhenbedw yn 1917, sef Steddfod y gadair ddu a Hedd Wyn.
Ond dim ond Samuel Evans oedd ar ôl.
Dywedodd awdur y ddrama Tom George Carroll, sy'n byw yn yr Orsedd ger Wrecsam, fod y stori yn delio gyda phroblemau milwyr a oroesodd y rhyfel.
"Fe wnaeth Hedd Wyn ac aelodau'r côr yr aberth pennaf ac roedd hi'n bwysig gwneud y cynhyrchiad mor realistig â phosib," meddai Mr Carroll.
"Ond ei nod ydy, nid i ganolbwyntio yn bennaf ar erchyllterau'r front line, ond canolbwyntio ar y rhai hynny a ddaeth drwy'r rhyfel ond a oedd wedi eu chwalu yn feddyliol ac yn emosiynol wrth iddyn nhw geisio ymdopi efo bywyd bob dydd ar ôl dod adref."
Bydd Dinner with Otto yn cael ei pherfformio yn theatr fach Y Rhyl ar 13 a 14 Medi ac yn y stiwt yn Y Rhos ar y 27 Medi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2016