Digwyddiadau COP Cymru y llywodraeth yn 'fethiant' costus
- Cyhoeddwyd
Mae cyfres o ddigwyddiadau gafodd eu cynnal yng Nghymru i gyd-fynd â COP26 wedi'u galw'n "fethiant" costus gan y Ceidwadwyr.
Yn ôl ffigyrau sydd wedi dod i law'r blaid, cafodd £230,000 o arian cyhoeddus ei wario ar COP Cymru.
Ond honni mae'r Torïaid na ddenodd y dadleuon a'r darlithoedd fawr o ddiddordeb gan y cyhoedd na'r cyfryngau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod dros 3,800 o bobl wedi mynychu'r digwyddiadau ar-lein.
Beth oedd COP Cymru?
Fe ddechreuodd y gyfres ddiwrnodau cyn y gynhadledd newid hinsawdd yn Glasgow gyda lansiad cynllun Sero Net Llywodraeth Cymru.
Roedd y digwyddiad yn cynnwys sesiwn panel ym Mhort Talbot gafodd ei ffrydio i gynulleidfa rithiol.
Dilynwyd hyn gan sioe deithiol yn ystod pythefnos yr uwchgynhadledd - pedwar o ddigwyddiadau trafod yn cael eu cynnal mewn gwahanol rannau o Gymru yn ffocysu ar ynni, natur, addasu at newid hinsawdd a thrafnidiaeth.
Yna fe ddaeth Wythnos Hinsawdd Cymru ar ddiwedd mis Tachwedd - pum diwrnod o ddigwyddiadau ar-lein.
Bellach mae Llywodraeth Cymru wedi darparu rhestr o'r costau i'r Ceidwadwyr sy'n dangos i £53,600 gael ei wario ar lwyfannu a gofynion sain, hyd at £135,000 ar staffio a rheoli'r digwyddiadau, £9,500 ar blatfform ar-lein COP Cymru, hyd at £23,000 ar farchnata ac oddeutu £13,490 ar gostau eraill.
Cafodd newyddiadurwyr a chyflwynwyr amlwg o Gymru eu gwahodd i gadeirio rhai o'r digwyddiadau, oedd yn cynnwys arbenigwyr blaenllaw ar bynciau amgylcheddol yn ogystal â rhai o weinidogion y llywodraeth.
Mae recordiad o bob sesiwn wedi'i gyhoeddi ar-lein - a thra nad yw'r ffigyrau gwylio yn amlwg, dim ond un o'r fideos sydd wedi'i "hoffi" a hynny unwaith, tra bod dim sylwadau o gwbl wedi'u postio oddi tanynt.
'Hunan-hyrwyddo a mwytho ego'
Honni mae'r Ceidwadwyr bod y digwyddiadau wedi'u defnyddio ar gyfer "rhethreg nid gweithredu" gan arwain at "ychydig os nad dim un" cyhoeddiad polisi y tu hwnt i'r cynllun sero net.
Yn ôl eu llefarydd ar newid hinsawdd yn y Senedd, Janet Finch Saunders roedd y cyfan yn "fethiant".
"Mae'n hynod o siomedig bod arian trethdalwyr wedi'i wario ar ddigwyddiadau oedd ddim mwy 'na hunan-hyrwyddo a mwytho ego," meddai.
Fe honnodd bod cyllid wedi'i wastraffu a gallai fod wedi'i ddefnyddio at well pwrpas drwy fuddsoddi yn y gwaith o ddiogelu hen domeni glo, sy'n "gymaint o flaenoriaeth i bobl Cymru".
Ond dweud ei bod wedi'i chythruddo gan agweddau o'r feirniadaeth wnaeth yr Athro Mary Gagen o Brifysgol Abertawe, arbenigwr ar newid hinsawdd.
Cafodd hi wahoddiad i fod yn rhan o sawl un o ddigwyddiadau COP Cymru, gan gynnwys cynhyrchu canllaw dysgu i ysgolion, a fideos yn hyrwyddo ymdrechion ymchwilwyr prifysgolion yn y maes.
"Ces i'n siomi o weld yn y feirniadaeth gan nad oedd y rhain yn ddigwyddiadau flashy i'r cyfryngau, nad oedden nhw'n rhai fyddai'n ysbrydoli nac yn arwain at newid," meddai.
"Y gwrthwyneb sy'n wir - yr hyn sy'n arwain at newid positif yw'r eiliadau bach yna lle mae plentyn ysgol yn gallu cwrdd â gwyddonydd, lle mae ffermwr yn gallu gofyn cwestiwn.
"Dy'n nhw byth yn mynd i gyrraedd blaen y papurau newydd ond maen nhw'n llawn ystyr.
"I mi, fe arweiniodd COP Cymru at filoedd ar filoedd o eiliadau felly."
Yn ôl Dr Anna Bullen o'r Ganolfan Dechnoleg Amgen, a wnaeth gadeirio un o'r sesiynau, roedd y ffaith bod y cyfan yn cael ei ffrydio yn fyw yn ei gwneud hi'n "anodd amgyffred" sut oedden nhw'n cael eu derbyn.
"Wrth gwrs ro'n i eisiau gweld cymaint o ddiddordeb ymysg y cyhoedd ag oedd yn bosibl, ond fydden i ddim yn defnyddio hynny fel yr unig reswm i ddod â digwyddiad fel hyn i ben," meddai.
"Ar gyfer ein sector ni mae dod ag arbenigwyr ac arweinwyr yn y maes ynghyd, i rannu syniadau, dealltwriaeth ac ymchwil yn hollbwysig."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod COP Cymru wedi cynnwys rhaglen gynhwysfawr o ddigwyddiadau, yn denu dros 3,800 i fynychu ar-lein, a 200 o bobl yn gwneud cyflwyniadau ar draws 38 sesiwn.
"Cafodd sawl digwyddiad ymylol eu cynnal hefyd gan fod 'na ormod o alw am gynnwys i ffitio i mewn i un rhaglen," meddai.
Os yw'r llywodraeth i gyrraedd ei tharged sero net yna mae'n "allweddol ein bod yn siarad â phobl, busnesau, a sefydliadau ar draws Cymru", meddai.
"Darparodd COP26 y platfform rhyngwladol i ddangos bod Cymru yn chwarae'i rhan ac yn taclo'r bygythiad o newid hinsawdd a ry'n ni'n gwrando ac yn dysgu ar brofiadau gwledydd eraill.
"Daeth COP Cymru â'r sgwrs yn nes adre ac roedd yn gyfle pwysig i gynnwys dinasyddion drwy Gymru, gan eu helpu i ddeall yr angen am weithredu ar y cyd - a'r rôl y gallen nhw ei chwarae."
O ran diogelwch tomenni glo, fe ddywedodd y llefarydd mai Llywodraeth y DU oedd yn "anfodlon i gymryd perchnogaeth" o'r costau atgyweirio, sy'n cael eu hamcangyfrif i fod o leia' £500m.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2021