Gwaith arloesol dylunydd o Gapel Hendre

  • Cyhoeddwyd
Y dylunydd Gareth ReesFfynhonnell y llun, Gareth Rees
Disgrifiad o’r llun,

Y dylunydd Gareth Rees

Doedd y dylunydd Gareth Rees o Gapel Hendre yn Sir Gaerfyrddin ddim yn un am fynd i'r ysgol. Roedd o'n gymeriad swil oedd yn cadw ei hun iddo ei hun.

Ond beth oedd ganddo oedd dawn dylunio arbennig a diddordeb mewn ceir a phêl-droed.

Ag yntau ddim ond yn 34 oed mae'r dylunydd eisoes wedi gweithio i gwmnïau fel Adidas, Sky, Daihatsu a Landrover mewn gwledydd fel yr Almaen, Japan a Korea.

Mae Gareth wedi rhagori yn y llefydd hyn ac yn aml iawn wedi gweithio ar brosiectau blynyddoedd o flaen ei amser. Mae'n cyfeirio at ei berspectif a'i empathi fel dau rinwedd sydd wedi bod yn ganolog i'w lwyddiant. Dyma flas ar sut wnaeth o gyrraedd rhai o gwmnïau mwyaf adnabyddus y byd yn dylunio.

'Tyfu lan'

"Doeddwn i ddim yn teimlo mai'r ysgol oedd fy lle i," meddai Gareth. "Ond roedd fy athro, Mr Llywelyn, wastad yn dweud bod gen i dalent.

"Roeddwn yn dda yn dylunio a chelf... yn hoffi creu stwff, darlunio a dylunio. Roedd ganddo ffydd ynof fi ac fe ddywedodd e y byddwn i'n mynd yn bell."

Ffynhonnell y llun, Gareth Rees
Disgrifiad o’r llun,

Sgets prosiect ymchwil meistr Royal College of Art, 2015. "Elements Future of Farming. Mae'n archwillio dyfodol ffermio. Dyma gerbyd gwaith ffermio hunangynhaliol"

Feddyliodd Gareth ddim o'r peth - doedd o ddim yn ymwybodol y byddai'n bosib dilyn gyrfa ym myd dylunio. Fe arhosodd yn y chweched dosbarth yn hytrach na mynd i wneud mecaneg yn y coleg.

Ond yn yr un cyfnod gwnaeth salwch ei fam wneud iddo feddwl "mae'n rhaid i fi dyfu lan."

"Roeddwn i wedi cael magwraeth dosbarth gweithiol un rhiant ac roedd salwch fy mam wedi fy ngorfodi i feddwl am ddyfodol hebddi - falle bod hwnna wedi newid fy mhersbectif ar fywyd a gwneud i mi ystyried beth i wneud gyda bywyd fi."

'Persbectif'

Mae persbectif yn rhywbeth sydd yn ganolog i'w waith fel dylunydd.

"Fi wastad wedi bod yn berson sydd yn ymwybodol o eraill - yn empathetig iawn," eglura Gareth.

Ffynhonnell y llun, Gareth Rees
Disgrifiad o’r llun,

Syniad esgid pel-fasged o brosiect llawrydd. Mae llawer o waith Gareth ar esgidiau o dan gytundeb Peidio â Datgelu (Non-disclosure Agreement) gan fod y diwydiant mor gystadleuol a'r dylunydd yn gweithio o flaen ei amser

"Falle bo' fi ddim wedi cael profiadau fel pobl eraill ond falle bod fy nychymyg i fel person creadigol yn galluogi fi i ddychmygu profiadau a theimladau pobl eraill.

"Wrth ddylunio mae'n rhaid i fi ddeall beth yw anghenion pobl, beth mae pobl eisiau o'r cynnyrch, beth maen nhw isie gwneud gyda'r cynnyrch yn ogystal â dyfeisio beth fydd pobl angen yn y dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Gareth Rees
Disgrifiad o’r llun,

Syniad ar gyfer esgid pel-droed, 2020

"Fi'n dychmygu fy hunan mewn sefyllfaoedd posib eraill. Dyna'r peth pwysicaf all dylunydd wneud."

Ar ôl y chweched dosbarth aeth Gareth i astudio Dylunio Modurol yng Ngholeg Celf Abertawe.

"Ro'n i yn hoffi dylunio ceir a sut mae e'n cwmpasu popeth - pensaernïaeth, mynegiant, lliwiau, graffeg, deunyddiau ac ati."

Ffynhonnell y llun, Gareth Rees
Disgrifiad o’r llun,

Syniad ar gyfer car trydanol Rolls Royce, 2015

Yn ei ail flwyddyn enillodd gystadleuaeth ryngwladol yn dylunio yacht yn erbyn myfyrwyr o rai o ysgolion dylunio a phensaernïaeth gorau'r byd.

"Roedd hwnna yn foment balch i fi. Wnaeth e roi hwb i fi a nes i feddwl y gallwn ddefnyddio fy sgiliau ar gyfer sawl maes dylunio."

Er i'w brosiect terfynol fod "yn drychineb" ar ôl i'w fodel clai o 'gar ysblennydd' chwalu yn ddarnau, cafodd Gareth farciau uchaf ei flwyddyn, a hynny heb brototeip.

Y llinellau'n sythu

"Ar ôl gorffen yn y brifysgol roedd hi'n anodd dod o hyd i swydd. Ges i gynnig i fynd i'r Royal College of Art yn Llundain ond doedd hyn ddim yn bosib yn ariannol," meddai Gareth.

Ond yn sydyn iawn fe sythodd y llinellau i'r dylunydd.

Ffynhonnell y llun, Gareth Rees
Disgrifiad o’r llun,

"Budweiser Kings of the Prem Set Design," i Sky Sports, 2019

Gweithiodd gyda chwmni cynhyrchu Tinopolis fel dylunydd graffeg cyn cael cynnig swydd gyda Sky Sports yn Llundain. Yna, pedair blynedd yn ddiweddarach, cafodd ei dderbyn am yr eildro i'r Royal College of Art ble rhannodd ei amser rhwng ei waith coleg a gweithio'n llawrydd i Sky ar y penwythnos.

Cafodd ymlyniad gyda Landrover a Gareth oedd myfyriwr dewisol cwmni ceir Daihatsu i symud i Japan i weithio yn y tîm 'Advanced Design'.

"Nes i weithio ar brosiect ymchwil yn edrych ar ddyfodol y Kei Car yn Japan," meddai Gareth. "Roedd popeth yn hollol newydd, yr amgylchedd a'r profiadau."

Ffynhonnell y llun, Gareth Rees
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gareth yn un o bedwar o ddylunwyr oedd yn ystyried dyfodol y Kei Car yn y Daihatsu Design Center yn Osaka, Japan. Dyma ei 'iine concept' sydd â phwyslais ar ymlacio a lles meddyliol y defnyddiwr

Adidas

Yn fuan iawn roedd Adidas yn galw. "Wnaethon nhw edrych ar fy mhrosiect terfynol yn y coleg a chynnig cyfweliad.

"Nes i gyfarfod â thîm Adidas FUTURE Advanced Innovation Design. Ges i gynnig y swydd ac esbonion nhw y byddwn i'n gweithio ar brosiectau Future of Football… fy mreuddwyd. Rwy'n dwlu ar bêl-droed!"

Symudodd Gareth i ddinas Nuremberg yn yr Almaen a chael profiadau gorau a mwyaf heriol ei fywyd.

Ffynhonnell y llun, Gareth Rees
Disgrifiad o’r llun,

Sgets o esgid pêl-droed ar gyfer Adidas

"Roedd y safon yn uchel iawn, iawn yno ac ro'n i'n cael fy ngwthio. Ti yn y Champions League yno ac roedd rhaid herio dy hun i gadw at safonau a disgwyliadau uchel drwy'r amser."

"Roeddwn yn dylunio esgidiau ac yn gweithio 3-7 blynedd o flaen gweddill y cwmni, ac roedd e'n dasg anodd. Yn hytrach na dilyn trends mae'n rhaid i chi geisio rhagweld beth fydd y trends ac anghenion y dyfodol.

Ffynhonnell y llun, Gareth Rees
Disgrifiad o’r llun,

FAW x Melin Tregwynt, prosiect personol. "Nes i ddychmygu sut fyddai'r ffordd traddodiadol Gymreig o weu yn gallu troi mewn i git pêl-droed"

"Gwnaeth fy amser yn Adidas fy ngorfodi i gydweithio'n agos gyda phobl eraill a gwella fy sgiliau rhyngbersonol.

"Mae teithio a gweithio gyda phobl ar draws y byd yn sicr wedi helpu. Mae byw a gweithio mewn cyd-destun rhyngwladol wedi helpu fy mhersbectif i, nid yn unig fel person ond hefyd fel dylunydd."

"Rôl dylunwyr yn newid"

Heblaw am ei dalent amlwg mae Gareth yn ystyried ei hyblygrwydd fel rhywbeth sydd wedi galluogi iddo ragori yn ei yrfa.

"Byddwn yn disgrifio fy hunan fel dylunydd aml-ddisgybledig… Fi 'di gwneud graffeg, automotive, interiors,exteriors, cynnyrch, set design a mwy.

Ffynhonnell y llun, Gareth Rees
Disgrifiad o’r llun,

"Y gorffennol yn cwrdd a'r dyfodol. Ystyried dyfodol car Ferrari trydanol"

"Dwi'n edmygu dylunwyr o'r cyfnod ar ôl y chwyldro diwydiannol fel Raymond Loewy, Norman Bel Geddes, a Henry Dreyfuss.

"Yn fy marn i, nhw oedd y goreuon, nhw wnaeth ddechrau ystyried sut oedd gwrthrychau mecanyddol yn ffitio mewn i fywyd pob dydd pobl - roedden nhw'n gallu dylunio unrhyw beth, o nwyddau traul (consumer goods) i drafnidiaeth i brandio.

"Wrth i'r oes symud yn ei flaen, mae rôl dylunwyr yn newid hefyd. Mae'r diwydiant wedi rhannu i wahanol feysydd ac mae llawer mwy o arbenigwyr yn eu maes. Mae'n cael ei gyfyngu i un math.

"Ond, yn y dyfodol, bydd rôl y dylunydd yn newid eto wrth i A.I. gael mwy o ddylanwad ar y broses greadigol a gydag offer mwy soffistigedig yn cael ei ddyfeisio. Bydd angen mwy o ddylunwyr gyda sgiliau amrywiol, eang a phersbectif empathetig."

Hefyd o ddiddordeb: