Aros 40 awr gyda Covid mewn uned frys yng Nghaerdydd heb wely

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Dywedodd Ian Cottrell nad oedd erioed wedi cael profiad tebyg yn ei fywyd o'r blaen

Mae dyn wnaeth aros 40 awr mewn uned brys ysbyty gyda Covid-19 wedi disgrifio'r sefyllfa fel un o "anhrefn" llwyr.

Dywedodd y cerddor a DJ Ian Cottrell, 48, y bu'n rhaid iddo a chleifion eraill eistedd ar y llawr yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd oherwydd prinder gwlâu.

Ychwanegodd fod ei brofiad yn yr uned brys wedi "gwaethygu" ei gyflwr a ni chafodd llawer o gymorth gan staff.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro bod yr uned argyfwng o dan bwysau mawr, a'u bod nhw'n annog unrhyw un sy'n anhapus gyda'i gofal i'w adrodd i'r bwrdd iechyd.

Profodd Mr Cottrell yn bositif am Covid-19 ar 26 Tachwedd, a phedwar diwrnod yn ddiweddarach roedd yn cael trafferth anadlu. Cafodd ei gynghori i fynd i'r ysbyty.

Dywedodd ei fod yn "brin iawn o anadl" ac roedd yn dioddef o gur pen gwael wrth iddo geisio cysgu.

Cafodd ei weld gan nyrs o fewn hanner awr o gyrraedd am 22:30 ar nos Fawrth, ond ni chafodd sedd yn y brif fynedfa tan 04:30 y diwrnod canlynol.

"Eisteddais ar gadair o 04:30 ddydd Mercher tan 14:00 y diwrnod canlynol," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Treuliodd Ian Cottrell ei noson gyntaf ar y llawr yn aros am sedd yn yr uned frys

Treuliodd Mr Cottrell 40 awr yn yr uned argyfwng.

Dywedodd iddo dderbyn ansawdd isel o ofal yn ystod yr amser yna, ac mai nid fe oedd yr unig un.

"Mae'n anhrefn yna. Does neb yn gwybod beth sy'n mynd ymlaen," meddai.

Ffynhonnell y llun, Ian Cottrell
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ian Cottrell bod yr uned yn 'anhrefn' llwyr

Yn ôl Mr Cottrell, fe dreuliodd bedwar diwrnod heb gwsg cyn cael gwely yn yr ysbyty, er i feddygon ddweud y byddai'n cael un yn gynt.

Er bod y gofal ar y ward Covid yn "wych" unwaith iddo gyrraedd, mae'n teimlo bod ei brofiad cyn hynny wedi gwaethygu ei gyflwr.

Uned 'dan bwysau mawr'

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro: "Maen ein huned argyfwng yn parhau i fod o dan bwysau mawr yn ystod cyfnod y gaeaf, sydd wedi dwysáu gan y pwysau mae'r pandemig wedi achosi.

Mae staff Profiad Cleifion a chyd-weithwyr o'r Groes Goch wedi bod yn darparu cefnogaeth werthfawr ar gyfer cleifion sy'n anffodus yn gallu wynebu amseroedd aros hir ar adegau."

Ychwanegodd y dylai unrhyw gleifion sy'n anhapus gyda'u triniaeth adrodd y profiad i'r bwrdd iechyd.