Cannoedd o Gymry dan 20 oed yn yr ysbyty gyda Covid yn 2021

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Maisy EvansFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Fe dreuliodd Maisy Evans dros wythnos yn Ysbyty Athrofaol y Faenor, Cwmbrân gyda Covid

Wrth i'r galw gynyddu am frechiadau atgyfnerthu yn erbyn Covid-19, mae meddyg amlwg yn rhybuddio fod pobl ifanc hefyd yn medru cael eu taro'n wael iawn gan y feirws.

Daw wedi i raglen Newyddion S4C ddatgelu ffigyrau newydd sy'n datgelu am y tro cyntaf nifer y bobl ifanc sydd wedi derbyn triniaeth ysbyty gyda coronafeirws.

Yn ôl y ffigyrau, gafodd eu darparu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, cafodd 611 o bobl dan 20 oed yng Nghymru eu hanfon i ysbyty gyda Covid-19 rhwng dechrau Ionawr a diwedd Tachwedd eleni.

Er i Newyddion S4C ofyn faint o'r rheiny oedd yn yr ysbyty oherwydd y feriws yn benodol, dywedwyd nad oedd y ffigyrau hynny ar gael.

Mae nifer y rhai aeth i ysbyty yn awgrymu bod 0.4% o'r bobl dan 20 oed sydd wedi heintio â Covid rhwng mis Ebrill a Thachwedd eleni wedi derbyn triniaeth ysbyty, o'i gymharu â 2.2% o oedolion dros 20 oed.

Mae dau berson ifanc dan 14 oed wedi marw gyda coronafeirws yng Nghymru - y ddau achos ym mis Medi.

Yn ôl llefarydd BMA Cymru, Dr Phil White: "Dydy Covid ddim yn effeithio ar bobl mewn oed yn unig.

"Mae pawb yn medru cael eu heffeithio gan y salwch yma, mae pawb yn medru bod yn sâl iawn efo fo ac mi fydd yna ganran o'r to ifanc hefyd sydd yn cael eu trosglwyddo i ysbytai.

"Mae'r rhain yn aml iawn yn sâl iawn. Ddylen nhw ddim meddwl am eu bod nhw'n bobl ifanc y bydd o ddim yn effeithio arnyn nhw."

Disgrifiad,

Maisy Evans: "Fy mhrofiad i o Covid ac anti-vaxxers Twitter"

Mae Maisy Evans o Gasnewydd yn un sydd wedi gorfod cael triniaeth ysbyty oherwydd y feirws.

Ym mis Awst, pan yn 17 oed, fe dreuliodd hi dros wythnos yn Ysbyty Athrofaol y Faenor, Cwmbrân.

Cafodd ei thrin i ddechrau yn yr uned dibyniaeth uchel, a dywedodd ei bod yn ofni am ei bywyd.

"Roeddwn i'n ymladd am fy mywyd yn yr ysbyty. Roedd e'n rili scary," meddai.

"Roedd clot ar fy ysgyfaint dde a lot o niwmonia wedi'i achosi gan Covid. Rodd inflammation, scar tissue, fluid, popeth yn bod arno fe.

"Roedd y sgans yn edrych yn warthus. Ro'n i'n edrych fel rhywun 80 oed oedd yn 'smygu 20 y dydd."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Maisy ei thrin yn Ysbyty Athrofaol y Faenor, Cwmbrân ym mis Awst

Dri mis yn ddiweddarach, mae'n dweud ei bod hi'n dal i deimlo effaith y salwch.

"Roeddwn i'n wan am sawl wythnos. Fi dal yn wan nawr. Rhai diwrnodau, fi'n deffro a fi'n teimlo'n flinedig, mewn poen, ddim am wneud dim byd heblaw cysgu," meddai.

"Mae'n broses araf, a dydyn nhw ddim yn gwybod beth fydd yr effeithiau hirdymor.

"Dy'n nhw ddim yn siŵr sut bydd y scar tissue yn ymdopi, sut bydd fy ysgyfaint yn y dyfodol.

"Maen nhw'n poeni hefyd am yr effaith ar organau fel fy ymennydd a fy nghalon - dwi'n trafod hynny nawr.

"Mae'n rili ofnus ond dyna'r realiti. Mae Covid yn rhywbeth i boeni amdano, yn bendant."

'Agoriad llygad'

Yn ôl ffigyrau swyddogol mae dros 80% o'r rheiny rhwng 65 a 69 oed wedi derbyn tri dos o frechiad Covid, ond dim ond 3% o blant 12-15 oed sydd wedi cael dau ddos.

Mae Maisy hefyd yn galw ar bobl ifanc i gael y pigiad.

"Fi'n credu oedd fy mhrofiad i yn agoriad llygad i bobl sy'n fy adnabod. Rwy' am atgoffa pobl fod Covid ddim yn jôc," meddai.

"Roeddwn i'n 17, yn eithaf ffit ac yn byw bywyd weddol iach - ac roeddwn i yn yr ysbyty yn brwydro am fy mywyd."

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n dal i aros am gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar gynnig pigiad i blant dan 12 oed ac mae dau ddos yn cael ei gynnig i blant 12-15 oed ar hyn o bryd."