'Digon yw digon' gydag oedi cynllun ysgol Gymraeg Y Barri

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Sant Baruc

Mae cyngor yn ystyried mynd i gyfraith er mwyn cymryd cyfrifoldeb dros gynllun i adeiladu ysgol Gymraeg newydd.

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn dweud mai "digon yw digon" wrth i gynllun i godi adeilad newydd i Ysgol Sant Baruc yn ardal y Glannau yn Y Barri gael ei oedi.

Dywedodd pennaeth yr ysgol bod yr oedi yn "rhwystredig".

Mae'r awdurdod wedi cysylltu gyda chonsortiwm o dri chwmni adeiladu sy'n gyfrifol am y datblygiad, gan eu cyhuddo o dorri addewidion, o godi tai er mwyn gwneud arian ond o beidio ag adeiladu ysgol er budd y gymuned.

Dywedodd llefarydd ar ran y consortiwm o adeiladwyr eu bod wedi'u hymrwymo i adeiladu'r ysgol "cyn gynted â phosib".

Y bwriad gwreiddiol oedd y byddai Ysgol Sant Baruc yn symud i'w safle newydd erbyn mis Medi eleni.

Ond, yn dilyn oedi, fe wnaeth y cyngor gytuno ar amserlen newydd dros yr haf i ddechrau ar y gwaith adeiladu ym mis Ionawr 2022, gyda'r ysgol yn agor fis Medi nesaf.

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett o gabinet Cyngor Bro Morgannwg: "Digon yw digon."

"Mae'r sefyllfa wedi ei ddioddef yn ddigon hir. Rydym wedi ysgrifennu i Gonsortiwm y Glannau yn gofyn iddyn nhw drosglwyddo safle'r ysgol I ni.

"Os nad yw'r datblygwyr yn cytuno, byddwn yn edrych ar ba gamau cyfreithiol sydd ar gael i ni i fedru cymryd cyfrifoldeb."

Disgrifiad o’r llun,

Pennaeth Ysgol Sant Baruc ydy Rhian Andrew

"Fel ysgol 'da ni'n rhwystredig iawn," meddai'r pennaeth, Rhian Andrew.

"Yn anffodus mae'r oedi yma yn golygu bod ein cynlluniau ni i dyfu fel ysgol ddim yn digwydd ar hyn o bryd.

"Mae'r plant mewn adeilad sydd ddim yn addas i'w bwrpas - mae'r ysgol wedi'i adeiladu ar lethr," ychwanegodd.

"Dyw'r plant ddim yn cael mwynhau'r cyfleusterau newydd sydd wedi addo iddyn nhw."

Bwriad o ddyblu niferoedd disgyblion

Y bwriad wrth symud Ysgol Sant Baruc i'r safle newydd yw dyblu ei maint - o 210 o ddisgyblion i 420.

Mae na bryder na fydd 'na ddigon o le yn yr adeilad presennol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Owen Williams yn rhiant a llywodraethwr yn Ysgol Sant Baruc

"Dyw e ddim yn argoeli'n dda ar gyfer y gymuned... dyw e ddim yn argoeli'n dda ar gyfer ein staff a'n disgyblion ni chwaith," meddai Owen Williams, sy'n rhiant llywodraethwr.

"Mae'n rhaid i'r ysgol newydd 'ma agor... 'da ni'n agor fel ysgol dwy ffrwd ym mis Medi a fydd dim ysgol gyda ni, felly ble 'da ni'n mynd i roi'r plant ma?"

Pryder am golli cyfle am addysg Gymraeg

Mae'r pennaeth Rhian Andrew yn poeni y gallai rhai plant golli'r cyfle i gael addysg Gymraeg

"Mae tipyn o dai newydd ar safle'r Glannau, sydd wedi denu teuluoedd i'r Barri ac felly mae angen addysg ar y plant yna.

"Ry'n ni'n croesawu'r ffaith fod yr ysgol yn mynd i dyfu, ac mae'r awdurdod lleol wedi gwneud yn siŵr bydd na gynnydd yn mynd i fod addysg Gymraeg yn y dre' - ac mae hynny'n dda o beth," ychwanegodd.

"Ond yn anffodus wrth i'r oedi yma i ddigwydd, mae na blant posib na fyddai'n cael y cyfle i ddechrau i ddechrau yn Ysgol Sant Baruc."

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y consortiwm o adeiladwyr eu bod wedi'u hymrwymo i adeiladu'r ysgol cyn gynted â phosib.

"Mae'r consortiwm wedi ymrwymo'n llwyr i ddarparu'r ysgol cyn gynted ag sy'n bosib er budd y gymuned leol.

"Rydym yn rhannu pryderon dros yr oedi ac yn cytuno bod yr ysgol yn rhan allweddol o'r datblygiad cyfan."

Ychwanegodd y datganiad bod rhan fwyaf yr oedi y tu hwnt i reolaeth y consortiwm.

Dywedodd y bydden nhw'n parhau i weithio gyda'r cyngor i sicrhau bod y gymuned newydd yn y Glannau yn elwa o ysgol newydd cyn gynted ag y bo modd.

Pynciau cysylltiedig