Dyn wedi'i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth

  • Cyhoeddwyd
Lily SullivanFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion fel rhan o ymchwiliad i farwolaeth menyw 18 oed ym Mhenfro yn oriau man fore Gwener, 17 Rhagfyr.

Er nad yw'r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol, y gred yw mai Lily Sullivan yw hi.

Mae swyddogion sy'n rhan o'r ymchwiliad yn awyddus i siarad gydag unrhyw un a welodd Lily, a oedd wedi'i gwisgo fel yn y darlun uchod, yn ardal Main Street yn nhre Penfro rhwng 19:30 nos Iau, 16 Rhagfyr ac ardal Mill Pond tua 02:00 ddydd Gwener.

Mae ei theulu'n derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Fe gafodd dyn 31 oed ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac mae'n cael ei gadw yn y ddalfa ar hyn o bryd.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth allai fod o gymorth i'r ymchwiliad ffonio'r heddlu ar 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod DP-20211217-041. Mae modd hefyd ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Pynciau cysylltiedig