Newid hinsawdd yn 'ganolog' i gyllideb Cymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Tirlithriad ym Mhendyrys, y Rhondda wedi Storm Dennis ym mis ChwefrorFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Tirlithriad ym Mhendyrys, y Rhondda wedi Storm Dennis ym mis Chwefror

Bydd newid hinsawdd yn rhan ganolog o gynlluniau treth a gwariant Llywodraeth Cymru, meddai'r gweinidog cyllid.

Bydd Rebecca Evans yn cyhoeddi ei chyllideb ddydd Llun.

Mae hefyd yn addo gwario mwy ar wneud tomenni glo yn ddiogel.

Daw'r gyllideb wrth i weinidogion wynebu galwadau i helpu busnesau a gweithwyr sy'n wynebu cyfyngiadau Covid.

Tywys gwasanaethau a'r economi drwy'r pandemig yw'r flaenoriaeth, meddai'r Ceidwadwyr.

Mae Llywodraeth Cymru am i'r wlad fod yn genedl sero-net erbyn 2050, ond bydd yn ystyried dyddiad targed o 2035 fel rhan o'i chytundeb â Phlaid Cymru.

Dywedodd Ms Evans: "Bydd y gyllideb hon yn golygu bod Cymru mewn gwell lle i reoli effeithiau'r argyfwng hinsawdd a natur sydd eisoes yn effeithio ar gynifer o gymunedau yng Nghymru, a bydd ond yn effeithio ar fwy o gymunedau yn y dyfodol."

Fe fydd 'na arian ar gyfer cynnal a chadw tomenni glo, meddai.

Roedd gweinidogion yn gobeithio y byddai Llywodraeth y DU yn talu am y gwaith, ond ni chyhoeddwyd unrhyw arian ychwanegol yn adolygiad gwariant diweddar y Canghellor.

Cynigwyd £60m i fusnesau sy'n cael eu heffeithio gan y cyfyngiadau Covid diweddara yr wythnos ddiwethaf.

Bydd yn rhaid i glybiau nos gau ar 27 Rhagfyr, a bydd yn rhaid i fusnesau eraill ailgyflwyno rheolau cadw pellter cymdeithasol.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gweinidog Rebecca Evans yn cyhoeddi ei chyllideb yn ddiweddarach ddydd Llun

Ddydd Sul, dywedodd Mark Drakeford fod honiadau bod gweinidogion wedi methu â gwario miliynau'n fwy o gyllid Covid yn "nonsens".

Fe fydd "pob ceiniog" yn cael ei wario, meddai, gan gynnwys ar ddarparu brechlynnau, olrhain cysylltiadau a chefnogi ysgolion.

"Dyw'r arian ddim yn eistedd ar silff yn gwneud dim," meddai.

Mae rhai sectorau am i doriadau mewn cyfraddau busnesau, a gyflwynwyd i'w helpu drwy'r pandemig, barhau yn y flwyddyn nesaf.

Galw am iawndal

Dywedodd y Ceidwadwyr hefyd y dylid ymestyn gwyliau trethi busnes - ac fe alwon nhw am iawndal i fusnesau oedd yn colli archebion oherwydd yr amrywiolyn Omicron.

Dywedodd Peter Fox, yr Aelod o'r Senedd Torïaidd dros Fynwy: "Llafur sydd wedi bod yn gyfrifol am redeg gwasanaethau cyhoeddus ers dyddiau Tony Blair, ond gyda chymorth y cenedlaetholwyr, maen nhw wedi methu gwella ein heconomi a gwasanaethau cyhoeddus."

Mae Llywodraeth Cymru eisiau i Lywodraeth y DU gyflwyno ffyrlo - galwad sy'n cael ei adleisio gan arweinydd Plaid Cymru Adam Price.

"Mae'n rhaid i ni wybod os oes ei angen yng Nghymru, Yr Alban neu Ogledd Iwerddon - neu hyd yn oed Lloegr - bod yr arian ar gael i ni ddarparu ffyrlo," meddai.