Heddlu'n ymchwilio i weiren bigog ar lwybr seiclo

  • Cyhoeddwyd
Llun blur

Mae'r heddlu yn ymchwilio ar ôl i seiclwr gael ei anafu gan weiren bigog oedd wedi ei gosod ar draws llwybr yn Rhondda Cynon Taf.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod y dyn wedi ei anafu ar lwybr yn ardal Ton Pentre am tua hanner dydd ar 19 Rhagfyr.

Roedd y dyn, gafodd glwyfau ar ei wddf, "yn ffodus iawn na chafodd anaf gwaeth", meddai'r heddlu.

Dywedodd y llu iddyn nhw ddod yn ymwybodol o'r digwyddiad ar ôl gweld lluniau ar wefannau cymdeithasol.

Ychwanegodd y Sarjant Karl Emerson mai'r gred yw bod y weiren wedi ei chuddio gan frigau.

"Dylai unrhyw un sy'n seiclo yn yr ardal fod yn wyliadwrus a chymryd gofal ychwanegol", meddai.

Mae swyddogion wedi bod yn chwilio yn yr ardal am unrhyw weiars eraill all fod wedi eu gosod, ac maen nhw'n hyderus nad oes perygl i'r cyhoedd.

Dywedodd yr heddlu y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu gyda nhw ar 101.

Pynciau cysylltiedig