Parhau â'r gwaith o godi pont 500 tunnell ar Ddydd Nadolig
- Cyhoeddwyd
Mae peirianwyr yn treulio Dydd Nadolig yn gosod pont sy'n pwyso 500 tunnell yng ngorsaf Casnewydd.
Mae'r cysylltiad newydd i gerddwyr rhwng Devon Place a Queensway wedi'i adeiladu gan Pro Steel Engineering o Bont-y-pŵl.
Tra bod miloedd o bobl ar hyd a lled Cymru yn dathlu'r Ŵyl, mae'r gweithwyr yn gohirio'r gwledda er mwyn bwrw 'mlaen â'r prosiect tra bod yr orsaf yn dawel.
Mae Network Rail yn manteisio ar y ffaith fod y rheilffordd ar gau dros y Nadolig i osod y bont.
Pontio'r platfformau
Mae'r bont yn ymestyn uwchben pob un o bedwar platfform gorsaf Casnewydd, gyda rampiau a grisiau ar y naill ben a'r llall.
Cyn heddiw roedd teithwyr wedi gorfod defnyddio grisiau a thwnnel o dan y rheilffordd er mwyn cyrraedd y platfformau.
Roedd y llwybrau yn aml hefyd yn darged i fandaliaeth.
Cafodd hynny ei nodi yn y cais cynllunio, gan gyfeirio at yr isffordd fel "amgylchedd digroeso lle'r oedd ofn ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd".
Fe ddechreuodd y gwaith o osod y bont newydd toc wedi hanner nos fore Nadolig.
Mae disgwyl iddi gael ei gosod yn ddiogel cyn i'r rheilffordd ailagor ar 27 Rhagfyr.
'Balch o'r gwaith'
Enillodd Pro Steel Engineering y cytundeb ym mis Ebrill i adeiladu, paentio, cludo a gosod y gwaith dur ar gyfer y bont.
Dywedodd y rheolwr gyfarwyddwr Richard Selby wrth BBC Cymru fod y cwmni wedi derbyn y dur ym mis Awst.
"Rydyn ni wedi bod yn cynhyrchu'r colofnau sydd yn sefyll ar y ddaear ac yn cefnogi'r bont, ac mae pedwar ohonyn nhw," meddai.
"Yna mae'r bont sy'n mynd rhwng platfform dau a phlatfform tri, ac mae stondinau i'r gogledd a'r de ar naill ben y bont."
Mae'r bont ogleddol sy'n ymestyn dros blatfform tri a phedwar oddeutu 20 metr o hyd ac yn pwyso 46 tunnell.
Mae pont y de yn 32 metr o hyd ac yn pwyso 63 tunnell. Cyfanswm pwysau'r strwythur, sy'n cynnwys y rampiau a'r grisiau, yw 500 tunnell.
Bydd peirianwyr yn gweithio 24 awr y dydd i osod y bont yn ddiogel.
Dywedodd Mr Selby: "Er mwyn tarfu cyn lleied â phosib ar y cyhoedd, mae'n rhaid i'n staff oedi eu cinio Nadolig i wneud i hyn ddigwydd.
"Dyma'r math o waith, sydd â phroffil uchel, ry'n ni'n falch o fod yn gysylltiedig ag e, hyd yn oed yn fwy felly oherwydd ein bod ni wedi ein lleoli dim ond pum milltir i fyny'r ffordd."
Ac mae'n hyderus y bydd y gwaith yn cael ei orffen mewn pryd.
"Mae'r cau am ddau ddiwrnod, ond yn amlwg rydyn ni'n mynd i'w gyflawni mewn ffordd mor ddiogel a chyflym â phosib. Ac ry'n ni'n credu bod yna amser da pe bai unrhyw broblemau."
Y risg mwyaf? "Y gwynt," atebodd Mr Selby. "Gwynt yw ein gelyn mwyaf ar yr achlysuron hyn."
Mewn datganiad dywedodd Network Rail y byddai'r bont yn gwella profiad teithwyr.
"Mae Network Rail yn manteisio ar y ffaith fod y rheilffordd ar gau ar Ddydd Nadolig a Dydd San Steffan i gynnal prosiectau allweddol mewn partneriaeth â dau awdurdod lleol ar hyd Prif Linell De Cymru.
"Gan weithio gyda Chyngor Casnewydd, bydd pont droed newydd sbon, hygyrch, yn cael ei gosod yng Ngorsaf Reilffordd Casnewydd, gan wneud teithio'n haws i deithwyr trwy gysylltu Devon Place a Queensway.
"Ni fydd y gwaith hwn yn effeithio ar wasanaethau trên."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2021