Omicron: Mwy o gyfyngiadau 'yn debygol' o 27 Rhagfyr

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Vaughan Gething bod angen mwy o gyfyngiadau ar 27 Rhagfyr i gadw pobl yn ddiogel

Mae mwy o gyfyngiadau yn debygol o gael eu cyflwyno o 27 Rhagfyr, yn ôl yn un o weinidogion Llywodraeth Cymru.

Rhybuddiodd Vaughan Gething fod angen mesurau coronafeirws pellach i gadw'r wlad yn ddiogel.

Mae gweinidogion wrthi'n ystyried a oes angen cyflwyno rheolau newydd ar ôl y Nadolig i fynd i'r afael ag amrywiolyn Omicron.

Galwodd Mr Gething, gweinidog yr economi, hefyd ar i Lywodraeth y DU ailgychwyn y cynllun ffyrlo.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gynnal cynhadledd i'r wasg ddydd Mercher.

Cyhoeddwyd eisoes y bydd gemau chwaraeon yn cael eu cynnal y tu ôl i ddrysau caeedig yng Nghymru o 26 Rhagfyr ymlaen.

Mae'r cyfyngiadau yna wedi eu beirniadu fel rhai "hollol hurt" gan rai ar lawr gwlad, gydag eraill yn dweud y gallai'r camau fod yn wrth-gynhyrchiol.

Mae Prif Weinidog Cymru eisoes wedi cyhoeddi y bydd clybiau nos yn cau a rheolau ymbellhau cymdeithasol yn dychwelyd i swyddfeydd o 27 Rhagfyr.

Nid oes unrhyw gyfyngiadau pellach i letygarwch - fel bwytai a thafarndai - wedi'u cadarnhau hyd yn hyn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na bryder y bydd gwahardd cefnogwyr yn arwain at fwy yn teithio dros y ffin

Dywedodd y cyn-weinidog iechyd Mr Gething fod mwy o gyfyngiadau "yn debygol o gael eu cyflwyno o'r 27ain ymlaen".

"Rydyn ni'n mynd i orfod gweld beth mae hynny'n ei olygu am y cyfnod o amser y gallai ddigwydd hefyd," meddai fore Mawrth.

"Ond fe wnawn ni'r peth iawn i geisio gwneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn clybiau chwaraeon a'r economi ehangach hefyd.

"Rydyn ni wir yn meddwl y byddem ni'n cael help i wneud hynny pe bai dychwelyd i ffyrlo oherwydd rwy'n hyderus y bydd angen mwy o fesurau amddiffynnol i gadw pobl yn ddiogel ac yn fyw ac yn iach.

"A mwy na hynny, er mwyn atal gwasanaethau rhag cwympo dan bwysau ton fawr o heintiau Omicron."