Dyn yn y llys ar gyhuddiad o lofruddiaeth parc carafanau
- Cyhoeddwyd
![The Beeches Residential Caravan Park](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/17244/production/_122488749_murder.jpg)
Cafodd Heddlu Gwent eu galw i barc carafanau The Beeches ddydd Llun
Mae dyn o Sir Fynwy wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o lofruddiaeth wedi marwolaeth dyn mewn carafan ym Magwyr.
Mae Darren Smith, 42, wedi ei gyhuddo o lofruddio Richard Thomas, 52, ym mharc carafanau The Beeches, Knollbury, yn oriau mân fore Llun, 20 Rhagfyr.
Fe glywodd Llys Ynadon Casnewydd fore Gwener y cafodd Mr Thomas "losgiadau sylweddol i'w gorff" a bu farw'n ddiweddarach "o'i anafiadau".
Siaradodd Mr Smith i gadarnhau ei enw a'i gyfeiriad yn unig.
Dywedodd mai ei gyfeiriad oedd "rhif dau, parc carafanau The Beeches".
Dywedodd Heddlu Gwent y cawson nhw eu galw i'r parc carafanau am 02:30 fore Llun wedi adroddiadau o dân yno.
Cafodd Mr Smith ei gadw yn y ddalfa a chafodd yr achos ei anfon at Lys y Goron, Caerdydd, ble fydd yn ymddangos yr wythnos nesaf.
Nid yw'r heddlu'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Mae teulu Mr Thomas yn parhau i dderbyn cefnogaeth swyddogion arbenigol, meddai Heddlu Gwent.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2021