Y Bencampwriaeth: Bournemouth 3-0 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Leandro Bacuna yn gweld y cerdyn coch yn yr hanner cyntafFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Leandro Bacuna yn gweld y cerdyn coch yn yr hanner cyntaf

Mae Caerdydd yn beryglus o agos i safleoedd y cwymp yn dilyn colled o 3-0 yn Bournemouth.

Aeth y tîm cartref - sy'n parhau ar frig y Bencampwriaeth - ar y blaen mewn amgylchiadau ffodus wrth i ymdrech ddifflach Ryan Christie ddod o hyd i'r rhwyd ​​ar ôl 25 munud.

Roedd gan Gaerdydd fynydd i'w ddringo pan anfonwyd Leandro Bacuna i ffwrdd am dacl dwy droed ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Ychwanegodd Dominic Solanke ail cyn i ergyd Jefferson Lerma daro'r bar a chael ei gwyro i'r rhwyd gan y golwr Alex Smithies.

Mae'r canlyniad yn gadael yr Adar Gleision yn yr 20fed safle a dim ond tri phwynt y tu allan i safleoedd y cwymp.

Doedd Caerdydd heb chwarae ers 11 Rhagfyr cyn ymweld â Bournemouth ddydd Iau, a hynny oherwydd nifer o achosion Covid yn y clwb.