Gyrrwr yn yr ysbyty wedi i'w gar wyro oddi ar yr A48
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr car yn cael triniaeth ysbyty wedi i'w gerbyd wyro oddi ar ffordd yr A48 ger Crosshands i gae cyfagos.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi 4 o'r gloch fore Sul.
Mae plismyn wedi bod yn annog gyrwyr i osgoi'r ardal rhwng Crosshands a Llanddarog.
Dywed yr heddlu nad oedd unrhyw gerbydau eraill yn gysylltiedig â'r digwyddiad.
Mae'r gyrrwr yn cael triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.