Teyrngedau i gyflwynwraig Radio Wales, Janice Long
- Cyhoeddwyd
Mae nifer wedi bod yn rhoi teyrngedau i Janice Long, un o gyflwynwyr Radio Wales, sydd wedi marw yn 66 oed wedi salwch byr.
Yn ogystal, arferai Ms Long gyflwyno rhaglenni ar Radio 1, Radio 2 a hi oedd y fenyw gyntaf i gyflwyno Top of the Pops ac i gael ei sioe ddyddiol ei hun ar Radio 1.
Roedd hi hefyd yn un o brif gyflwynwyr cyngerdd elusennol Live Aid yn 1985.
Cafodd Janice Long ei geni yn Lerpwl ac roedd ei brawd Keith Chegwin hefyd yn gyflwynydd - bu ef farw yn 2017.
Mewn teyrnged iddi dywedodd ei hasiant, Nigel Forsyth, ei bod yn "berson arbennig a chynnes ac yn ddarlledwraig eithriadol.
"Roedd hi'n wych am ddweud stori ac roedd ei hiwmor yn peri i chi fod yn eich dyblau yn chwerthin," ychwanegodd gan ddweud ei bod yn gadael gŵr Paul a dau o blant.
Dywedodd Colin Paterson, pennaeth Radio Wales, nad oedd ei rhaglenni fyth amdani hi ei hun ond yn hytrach roeddent yn cael eu gweld fel cyfle i ganfod, rhannu a rhoi lle teilwng i gerddoriaeth.
"Fe ddaeth â'i hangerdd am gerddoriaeth i Radio Wales yn 2017, gan roi cefnogaeth i artistiaid Cymreig a cherddoriaeth Gymraeg - fe fyddwn yn colli ei hangerdd, ei gwybodaeth a'i chwerthiniad."