Gwreiddiau Cymreig ‘Deck The Halls’
- Cyhoeddwyd
A wyddoch chi fod gan un o ganeuon mwyaf adnabyddus cyfnod y Nadolig gysylltiad annisgwyl â Chymru?
Yr Albanwr Thomas Oliphant oedd awdur geiriau y gân Deck the Halls a ddaeth yn adnabyddus ar draws y byd, ond alaw draddodiadol Gymreig yw sail y gerddoriaeth.
Cafodd y geiriau Saesneg eu cyhoeddi am y tro cyntaf mewn cyfrol o'r enw Welsh Melodies, Vol. 2 yn 1862. Roedd hwn yn gyfnod pan oedd llawer o bobl Prydain ac America yn ceisio ail-ddarganfod hen draddodiadau Nadoligaidd ac mae'n debyg y byddai chwedloniaeth Gymreig yr alaw wedi cyfrannu at boblogrwydd y gân.
Ond mae'r alaw yn perthyn i'r traddodiad Cymreig o ganu penillion. Cafodd ei chofnodi ar bapur am y tro cyntaf gan y telynor John Parry ym 1761. Mae llawer o eiriau gwahanol wedi'u gosod ar yr alaw ar hyd y canrifoedd. Y mwyaf enwog o'r rhain yw 'Nos Galan' gan y bardd John Ceiriog Hughes, ond geiriau'r bardd John Jones Talhairn sy'n ymddangos yn yr un gyfrol â gwaith Thomas Oliphant.
Nid cân am y Nadolig yw Nos Galan, ond yn hytrach y flwyddyn newydd. Mae naws y geiriau Cymraeg yn dra gwahanol i'r fersiwn Saesneg adnabyddus. Tra bod Deck the Halls yn llawen a gobeithiol, cân hiraethus am gariad a'r gaeaf yw Nos Galan:
Oer yw'r gŵr sy'n methu caru,
Ffa la la la la, la la la la,
Hen fynyddoedd annwyl Cymru,
Ffa la la la la, la la la la,
Iddo ef a'i gâr gynhesaf,
Ffa la la, la la la, la la la,
Gwyliau llawen flwyddyn nesaf,
Ffa la la la la, la la la la.
Ond sut daeth yr alaw Gymreig yma yn adnabyddus ar draws y byd?
Dylanwad Canu Madrigal
Mae dylanwad canu Madrigal i'w glywed ar yr alaw, sef cerddoriaeth seciwlar o gyfnod y Dadeni. Fe fyddai'n cael ei berfformio gan grwpiau o bedwar i chwech o gantorion ac roedd caneuon am gariad yn rhan bwysig o'r traddodiad yma.
Roedd yr awdur a cherddor Thomas Oliphant yn aelod o'r Gymdeithas Canu Madrigal ac fe wnaeth enw i'w hun drwy osod geiriau newydd ar amryw o felodïau traddodiadol. Fe wnaeth yr alaw Gymreig 'Nos Galan' greu argraff arno ac aeth ati i ysgrifennu geiriau newydd fyddai'n gweddu naws hwyliog y gerddoriaeth.
Bu farw Thomas Oliphant yn 1873, ac mae geiriau Deck The Halls wedi cael eu haddasu sawl gwaith ers hynny, gan gynnwys cael gwared o gyfeiriad at yfed.
Fill the mead cup, drain the barrel
Fa la la la la la la la la...
Erbyn heddiw mae sawl fersiwn wahanol o'r geiriau i'w clywed ar draws y byd, ond mae'r alaw draddodiadol Gymreig i'w chlywed o hyd.
Cafodd yr erthygl yma ei haddasu ar 27 Rhagfyr.