'Omicron yw amrywiolyn amlycaf Cymru erbyn hyn'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Graffeg OmicronFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd achos Omicron cyntaf Cymru ei gofnodi ddechrau Rhagfyr

Omicron yw amrywiolyn amlycaf Covid-19 yng Nghymru erbyn hyn, yn ôl Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru.

Roedd Dr Chris Jones yn ymateb i'r ffaith bod dros 12,000 o achosion Covid newydd hyd yn hyn wedi eu cofnodi yng Nghymru dros gyfnod y Nadolig.

Cadarnhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod 6,580 achos newydd o amrywiolyn Omicron wedi eu cadarnhau yng Nghymru, sy'n dod â'u cyfanswm swyddogol i 7,369.

Yn ogystal, cyhoeddwyd brynhawn Mercher bod y gyfradd saith diwrnod am bob 100,000 o bobl yng Nghymru wedi codi i 1,079.3, sef ei lefel uchaf erioed, ac mae cyfanswm yr achosion Covid ers dechrau'r pandemig bellach dros 600,000.

"Rydym yn eithaf pryderus oherwydd ry'n ni'n gwybod ein bod ar ddechrau pedwaredd don y pandemig," dywedodd Dr Jones ar raglen BBC Radio Wales Breakfast.

'Dyblu mewn llai na thridiau'

Mae Omicron, meddai, yn "fersiwn drosglwyddadwy iawn o'r feirws nad sy'n cael ei effeithio'n fawr gan ddau ddos o'r brechlyn, a dydyn ni dal ddim mas o'r drydedd don, sef ton Delta'r hydref.

"Roedd ein cyfraddau achosion yn uchel cyn dechrau'r don Omicron ac mae ein hysbytai eisoes yn llawn wrth iddyn nhw geisio darparu'r gofal iechyd sydd wedi pentyrru dros y flwyddyn ddiwethaf."

Dywedodd bod achosion Omicron "yn dyblu mewn llai na thridiau" yng Nghymru.

"Yn ystod y bythefnos i dair wythnos diwethaf, mae wedi disodli Delta yn raddol a dyma bellach yr amrywiolyn amlycaf ac oherwydd hynny rwy'n disgwyl i ni weld cyflymiad pellach wrth i Omicron dyfu fwyfwy."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae ysbytai Cymru eisoes yn llawn, meddai Dr Chris Jones

Cyfeiriodd Dr Jones at y cymdeithasu sydd i'w ddisgwyl yn y dyddiau nesaf ar benwythnos dathlu'r Flwyddyn Newydd.

"Nid ydym eto'n gwybod beth fydd effeithiau'r cymysgu rhwng teuluoedd, ac o fewn cenedlaethau teuluoedd, dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd," dywedodd.

"Os yw hynny'n achosi cynnydd enfawr mewn achosion, sef yr hyn rwy'n ofni y gwelwn ni, yna bydd yna lawer o bobl yn sâl iawn, yn diweddu yn yr ysbyty ac yn cael profiadau anodd iawn."

Nyrsys 'wedi blino'n llwyr ac yn anobeithiol'

Dywedodd Cyfarwyddwr Coleg Brenhinol y Nyrsys yng Nghymru, Helen Whyley bod mwy o achosion yn y gymuned hefyd yn golygu mwy o achosion o blith gweithwyr iechyd.

"Rwyd wedi bod yn gwrando ar staff nyrsio dros y Nadolig a'r broblem fwyaf maen nhw'n ei hwynebu yw'r ffaith bod cydweithwyr ddim yn teimlo'n dda, sydd wrth gwrs yn golygu nad ydy pobl yn dod i'r gwaith," meddai.

"Gan fod hynny ar ben maint sylweddol o swyddi nyrsio gwag, mae'n achosi i rai o ein haelodau deimlo'n eithaf anobeithiol.

"Maen nhw wedi blino'n llwyr, mae gofyn iddyn nhw weithio diwrnodau hir am gyfnod hir i lenwi'r bylchau hyn."

Pynciau cysylltiedig