Subbuteo: Y ferch 12 oed sy'n bencampwr y fflicio a chicio

  • Cyhoeddwyd
Ruby Matthews
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ruby yn cynrychioli Cymru dan 15 oed yng Nghwpan y Byd ym Medi 2022

Pwy sy'n cofio fflicio er mwyn cicio? Dyna oedd slogan mawr Subbuteo - gêm sydd wedi ysbrydoli miloedd o chwaraewyr ar draws y blynyddoedd.

Ac er gwaethaf twf rhyfeddol gemau cyfrifiadurol mae'r ffigyrau bach plastig yn parhau i ysbrydoli un ferch 12 oed o Sir y Fflint.

Dechreuodd Ruby Matthews o'r Wyddgrug chwarae'r gêm gyda'i thad pan oedd hi'n saith oed.

Erbyn hyn mae hi'n 12 ac unwaith eto wedi ei henwi'r chwaraewr gorau ym Mhrydain o fewn ei hoedran.

Y cam nesaf yw cystadlu yng Nghwpan y Byd y gamp yn Rhufain flwyddyn nesaf.

Dyl yn cyfarfod Ruby

Rwy'n cofio cwrdd â Ruby mewn cystadleuaeth Subbuteo yn 2018.

Roedd dim syniad gyda fi beth i'w ddisgwyl wrth i fi gamu mewn i neuadd bentref yn Nhref-y-Clawdd.

Y syndod cyntaf oedd bod timau wedi teithio o bob cwr o Gymru i gystadlu. Y sioc nesaf oedd sylweddoli pa mor ddifrifol oedd y cyfan.

Y gemau yn gystadleuol dros ben a'r chwaraewyr yn trin eu ffigyrau bach fel trysorau.

Roedd mwyafrif y chwaraewyr yn oedolion oedd wedi parhau i chwarae ers eu plentyndod. Roedd hi'n syndod, felly, gweld merch wyth oed yn cystadlu gyda'r hen bennau.

Cafodd y gêm fwrdd ei dyfeisio yn y 1920au a dechreuodd obsesiwn tad Ruby, Cayne, yn y 70au - oes aur y gêm, o bosib.

"Dechreuodd y cyfan ym 1974 - chi'n cael y gêm fel anrheg Dolig pan chi'n chwech," meddai.

"Mae'r ffigyrau yn torri, ond chi dal yn mwynhau ac yn gofyn am fwy o dimau bob blwyddyn. Chi'n chwarae gyda'ch ffrindiau, yn yr ysgol hefyd.

"Dechreuais chwarae mewn digwyddiadau yn fy arddegau a fi oedd pencampwr gogledd Cymru am rhyw dair blynedd."

Disgrifiad o’r llun,

Cayne a Ruby Matthews: O un genhedlaeth i'r nesaf

Rhoi'r ffidil yn y to a rhoi'r bocs yn yr atig oedd hanes Cayne yn y pendraw, cyn iddo gyflwyno Subbuteo i Ruby bum mlynedd yn ôl.

"Dechreuodd y ddau ohonom chwarae dwy waith neu dair yr wythnos, dwy waith neu dair y noson weithiau," meddai Cayne.

"Mae'r cyfan wedi tyfu ers hynny. Sefydlu clwb oedd y cam nesaf cyn cynnal digwyddiadau bob mis ers rhyw bum mlynedd."

Mae cae Ruby wedi ei osod yn barhaol yn y cartref a chinio Nadolig yw'r unig achlysur sy'n golygu bod y cyfan yn symud.

"Yn dactegol, mae'n well na gemau cyfrifiadurol," meddai. "Mae'n unigryw ac rwy'n ei fwynhau. Rwy'n chwarae pêl-droed hefyd felly mae hwn yn fersiwn o hynny."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Ruby yr enillydd iau gorau ar ôl buddugoliaeth o 7-1 yn Wolverhampton yn 2021

Mae Ruby wedi ennill nifer o gystadlaethau yn barod ond bydd Cwpan y Byd yn gam mawr arall.

Roedd disgwyl iddi gynrychioli Cymru yn y categori dan 12 oed yn 2020 ond cafodd y gystadleuaeth ei chanslo oherwydd y pandemig.

Bydd hi nawr yng nghategori dan 15 oed y gystadleuaeth ym Medi 2022.

"Rwy'n nerfus achos dwi ddim wedi chwarae mewn cystadleuaeth fel hyn o'r blaen, ond yn gyffrous hefyd achos bydd hwn yn rhywbeth gwahanol."

Mae gemau cyfrifiadurol wedi datblygu gymaint yn ddiweddar a chyn hir bydd modd camu i mewn i'r sgrin a chwarae pêl-droed rhithiol.

Ond mae poblogrwydd Subbuteo yn profi mai'r syniadau syml yw'r rhai gorau, weithiau. Fflicio a chicio - beth mwy sydd ei angen.

Pynciau cysylltiedig