Covid: Ysbytai maes yn bosibilrwydd eto i drin cleifion
- Cyhoeddwyd

Roedd un o'r ysbytai maes ym Mharc y Scarlets yn Llanelli
Gallai ysbytai maes agor unwaith eto i drin cleifion Covid, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Mae'r llywodraeth wedi gofyn i fyrddau iechyd asesu eu "parodrwydd i greu cyfleusterau ychwanegol" wrth i'r pandemig fynd yn ei flaen.
Yn ystod y don gyntaf, cafodd ysbytai ychwanegol eu sefydlu ar hyd Cymru er mwyn trin cleifion Covid-19.
Daw sylwadau'r llywodraeth er bod nifer y bobl sy'n derbyn triniaeth ysbyty yn gysylltiedig â Covid o dan 300 am yr ail wythnos yn olynol.
Dyma'r ail nifer wythnosol isaf ers 29 Awst.
Ond dywedodd Iechyd a Gofal Digidol Cymru bod nifer y cleifion sy'n cael eu trin mewn ysbytai yng Nghymru ar gyfer Covid-19 wedi cynyddu gan 27% mewn wythnos, sy'n dod â'r nifer cyfartalog i 342.
Mae'r gyfradd achosion hefyd ar ei lefel uchaf ers dechrau'r pandemig - 1,004 o achosion fesul 100,000 o bobl - yn dilyn cynnydd yn nifer yr achosion ar ôl y Nadolig.

Cafodd cleifion eu trin yn Ysbyty Calon y Ddraig yn Stadiwm Principality
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi gofyn i fyrddau iechyd asesu eu parodrwydd i agor cyfleusterau cynnydd ychwanegol - oedd yn arfer cael eu hadnabod fel ysbytai maes - os oes angen.
"Rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd fod yn hyblyg wrth greu lle ychwanegol dros dro o fewn eu hysbytai ac o fewn cyfleusterau cynnydd er mwyn eu helpu i ymateb i ofynion y pandemig ac ateb anghenion gweddill y cymunedau y maent yn gwasanaethu."
Mae ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos 21,051 o achosion ychwanegol dros y 48 awr diwethaf a thair marwolaeth yn rhagor.

Gwaith sefydlu un o dair Ysbyty'r Enfys y gogledd yng Nghanolfan Brailsford, Bangor yn ystod ton gyntaf y pandemig
Yn ystod frig y don gyntaf yn 2020, fe drodd sawl stadiwm a theatr yn 17 ysbyty, gan gostio cyfanswm o £166m.
Ond dim ond Ysbyty Calon y Ddraig yn Stadiwm Principality gafodd ei ddefnyddio.
Mae cynlluniau eisoes yn eu lle i greu "hybiau" ychwanegol yn Lloegr.
Bydd wyth uned dros dro yn galluogi 100 o gleifion i gael eu trin, gyda'r gwaith adeiladu'n dechrau'r wythnos hon.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mai 2020
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2020