Lauren Price yn ennill medal aur yn y bocsio pwysau canol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Lauren Price yn curo Li QianFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Lauren Price fedal aur yn rownd derfynol y bocsio pwysau canol

Mae Lauren Price wedi ennill medal aur yn y bocsio pwysau canol ar ddiwrnod olaf Gemau Olympaidd Tokyo 2020.

Trechodd y Gymraes, 27 oed, Li Qian o Tsieina yn y rownd derfynol ddydd Sul.

Enillodd 5-0 o bwyntiau wrth gystadlu yn Arena Kokugikan yn Tokyo.

Dyma'r fedal Olympaidd gyntaf i'r ferch o Gaerffili, a oedd eisoes wedi ennill medal aur ym Mhencampwriaethau'r Byd yn 2019 ac yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2018.

Price oedd y bocsiwr benywaidd cyntaf o Gymru i gyrraedd y Gemau Olympaidd.

Enillodd y rownd gyntaf yn erbyn cyn-bencampwr y byd Li, gyda'r pum dyfarnwr yn penderfynu'n unfrydol mai hi oedd yr enillydd - diolch i'w dwylo a thraed cyflym.

Fe barhaodd i ddominyddu'r ail rownd, yn rheoli'r cyflymder gyda'i gwrthwynebwr yn ei chael hi'n anodd pwnio nôl. Rhoddodd pedwar o'r dyfarnwyr y rownd i Price, gydag un rownd i fynd.

Ni chafodd Price broblemau i fod ar y blaen yn y rownd derfynol, gyda'r pum dyfarnwr unwaith eto'n penderfynu'n unfrydol mai hi oedd yn fuddugol ac yn cipio'r fedal aur.

Price yw'r trydydd bocsiwr Cymreig i ennill medal bocsio Olympaidd.

Mae hi hefyd wedi chwarae pêl-droed rhyngwladol dros Gymru ac wedi bod yn bencampwr cic-bocsio'r byd.

Pwy o Gymru sydd wedi ennill medal?

Mae athletwyr o Gymru wedi ennill wyth medal i dîm Prydain gyda thair o'r rheiny'n fedalau aur.

  • AUR - Lauren Price (Bocsio)

  • AUR - Hannah Mills (Hwylio)

  • AUR - Matt Richards & Calum Jarvis (Nofio)

  • ARIAN - Elinor Barker (Seiclo)

  • ARIAN - Lauren Williams (Taekwondo)

  • ARIAN - Tom Barras (Rhwyfo)

  • EFYDD - Leak Wilkinson & Sarah Jones (Hoci)

  • EFYDD - Josh Bugajski & Ollie Wynne-Griffith (Rhwyfo)

Pynciau cysylltiedig