Hofrennydd yn achub menyw a phlentyn o greigiau

  • Cyhoeddwyd
Yr hofrennydd yn ardal Y MwmbwlsFfynhonnell y llun, Paul Gill

Cafodd menyw a phlentyn eu hachub gan hofrennydd wedi i'r fenyw gwympo ar greigiau ger y môr wrth i'r llanw ddod i mewn.

Cafodd Gwylwyr y Glannau Y Mwmbwls a'r RNLI eu galw tua 15:55 brynhawn Sul wedi'r ddamwain rhwng Rotherslade a Langland, ger Abertawe.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau bod oedolyn a dau blentyn yn cerdded ar hyd y creigiau pan lithrodd y fenyw a chael anaf i'w phen.

Llwyddodd un o'r plant i ddychwelyd i'r thraeth a galw am gymorth.

Cafodd y fenyw, ac un o'r plant a arhosodd gyda hi, eu codi o'r creigiau i'r hofrennydd a'u cludo i Ysbyty Treforys am driniaeth.

Pynciau cysylltiedig