'Rhaid trafod y risgiau i fenywod beichiog gyda pharch'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Menyw feichiogFfynhonnell y llun, Getty Images

"Chi'n poeni am beth chi'n bwyta - yw hynny'n mynd i effeithio ar y babi? Chi'n poeni am beth chi wedi 'neud cyn i chi ffeindio mas eich bod chi'n feichiog... oeddech chi wedi yfed? Oeddech chi 'di bwyta pethe? Gormod o take-aways, pethe fel'na?"

Mae Lisa Sheppard o Bentre'r Eglwys, Rhondda Cynon Taf yn lleisio'i phryderon adeg disgwyl ei mab Iestyn, sy' bellach yn 20 mis oed.

Mewn unrhyw oes mae beichiogrwydd yn gallu bod yn gyfnod pryderus i famau a darpar famau, ond fe ychwanegodd y pandemig at y pryder hynny.

Fe fu'n rhaid i Lisa newid ei chynlluniau ar gyfer yr enedigaeth pan gaeodd adran famolaeth Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant oherwydd Covid-19.

Wrth i'r geni agosáu bu'n rhaid iddi geisio dod i adnabod staff ysbyty gwahanol.

Dywedodd: "Fi'n teimlo weithiau bod dyheadau'r fam yn mynd mas trwy'r ffenest weithiau oherwydd risgiau bach heb fod y fam yn cael gw'bod pa mor fach yw'r risg hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Fel sawl darpar fam arall, roedd Lisa Sheppard yn llawn pryderon cyn rhoi genedigaeth yn 2020

Dyw Lisa ddim ar ei phen ei hun. Mae Michelle Thomas o Sir Gâr yn fam i ddau o blant. Mae hi'n eilio'r teimladau bod cyfathrebu risg yn ystod beichiogrwydd yn gallu ychwanegu ar bryder y ddarpar fam.

"O'n i'n feichiog yn ystod y cyfnod clo cynta' felly o'dd dim lot o wybodaeth ynglŷn â sut bydde pethe [Covid-19] yn effeithio ac roedd hi'n anodd i staff meddygol i roi rhai o'r atebion, oherwydd doedd gyda nhw ddim," meddai.

"Felly o'n i'n teimlo bo' ni'n cael y cyngor gore' gallen ni ond bod e ddim wastad yn lleddfu'r ofn a'r poenydio oedd yn digwydd ar y pryd."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd ceisio cael atebion ym misoedd cyntaf y pandemig yn her i bawb, medd Michelle Thomas

Mae ymchwil ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a Gwasanaeth Cynghori Beichiogrwydd Prydain (BPAS) yn awgrymu nad yw'r "modd y mae risg yn cael ei gyfathrebu wastad yn adlewyrchu'r dystiolaeth".

Fe gafodd dros 7,000 o fenywod eu holi gan astudiaeth prosiect WRISK, a fydd yn cyhoeddi'r casgliadau'n ffurfiol yn ddiweddarach eleni.

'Trin menywod beichiog fel plant'

Yn ôl cyfarwyddwr BPAS, Clare Murphy, mae'n bwysig bod arbenigwyr iechyd yn rhoi'r wybodaeth i fenywod er mwyn iddyn nhw wneud eu penderfyniadau eu hunain ynglŷn â risg.

"Yn aml mae menywod beichiog yn cael eu trin fel plant, ac yn teimlo bod eraill yn gwneud eu penderfyniadau drostyn nhw," meddai.

Mae'r ymchwil yn dangos bod menywod yn cael llawer o wybodaeth am rai pynciau fel alcohol ac ysmygu, ond bod yna alw am fwy o wybodaeth am faterion fel iechyd meddwl.

Dan chwyddwydr yr astudiaeth mae'r diwylliant presennol sy'n cael ei ddisgrifio fel ceisio osgoi unrhyw risg damcaniaethol.

Yn ôl Clare Murphy mae'r diwylliant yma wedi arwain, "yn drasig", at benderfyniad rhai menywod i beidio cael brechlyn yn erbyn Covid-19.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Rhiannon Phillips yn galw am gynnwys menywod beichiog mewn gwaith ymchwil

Galw am ymchwil i gynnwys menywod beichiog y mae'r Dr Rhiannon Phillips - darllenydd seicoleg iechyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Dywedodd fod angen i fenywod, meddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol gael gwybodaeth o ansawdd uchel "fel eu bod nhw'n gallu gwneud y dewisiadau cywir a wir meddwl am bwyso y risgiau a'r lles o gymryd un dewis neu'r llall".

Ychwanegodd: "Mae wir yn bwysig ein bod ni'n creu tystiolaeth sydd angen arnyn nhw trwy ymchwil fel bo' nhw'n gw'bod beth yw'r ffeithiau a bod hwn yn gallu eu helpu nhw efo'u penderfyniadau."

'Cymell pobl i boeni, nid dathlu'

Gyda chymaint o fenywod beichiog a mamau newydd yn teimlo'n ynysig yn ystod y pandemig, cafodd grŵp Mam a'i Babi ei sefydlu ar Facebook.

Mae bron i 1,500 o famau ar draws Cymru'n aelodau o'r grŵp preifat a chyfrinachol.

Dywedodd un o'r sylfaenwyr, Bethan Williams: "Dwi'n teimlo erbyn hyn ein bod ni'n gymdeithas sy'n canolbwyntio ar yr ofn, y pethau all fynd o'i le, y pethau pryderus - bo' ni'n cael ein cymell i boeni yn hytrach na dathlu."

Ffynhonnell y llun, Mam a'i Babi
Disgrifiad o’r llun,

Mae tudalen Facebook Mam a'i Babi yn gyfrwng i helpu mamau newydd deimlo'n llai ynysig yn ystod y pandemig

Grŵp i drafod pryderon a rhannu cyngor yw Mam a'i Babi - cyfle i wyntyllu ar adeg bwysig ym mywyd y fenyw a'i phlentyn, meddai Ms Williams.

"Dwi'n meddwl bod y wybodaeth yn cael ei rannu efo mamau, 'dan ni'n poeni wedyn am y manylion bach ac mae'r poeni wedyn ei hun hefyd yn gallu ychwanegu risg o fewn y beichiogrwydd.

"Dyw pryderu am bethau ddim yn creu corff iach sy'n caniatáu i bethau i ddatblygu yn y ffordd naturiol."

'Lot o'r wybodaeth ar-lein yn drysu pobl'

Ychwanegodd Michelle Thomas: "Mae lot fawr o wybodaeth mas ar y we a falle lot fawr o wybodaeth sydd ddim yn gywir.

"Mae'r wybodaeth fi wedi cael gan yr ymarferwyr iechyd proffesiynol wedi bod yn wych, ond mae cymaint o wybodaeth mas yna mae pobl yn drysu eu hunain weithiau yn trio darllen popeth."

Mewn datganiad dywedodd Coleg Brenhinol y Bydwragedd: "Mae cyfathrebu da rhwng gweithwyr iechyd proffesiynol a'r bobl y maen nhw'n gofalu amdanynt yn allweddol, yn enwedig drwy gydol rhywbeth sy'n newid bywyd fel beichiogrwydd a geni.

"Fe ddylai menywod deimlo'n gyffyrddus gyda'u bydwragedd, gyda'r gallu i ofyn unrhyw a phob cwestiwn - gan ddisgwyl i gael yr atebion cywir."

Pynciau cysylltiedig