Cynlluniau hydro Eryri yn cyrraedd carreg filltir
- Cyhoeddwyd
Roedd 2021 yn flwyddyn lle roedd 'na dipyn o bwyslais ar yr amgylchedd, gydag uwchgynhadledd COP26 yn Glasgow.
Cawn weld beth ddaw o'r addewidion gafodd eu gwneud yno, ond yma yng Nghymru mae nifer o sefydliadau yn canolbwyntio ar gyrraedd eu targedau carbon sero net erbyn 2030.
Yn eu plith mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sydd â'u cynlluniau hydro yn Eryri wedi cyrraedd carreg filltir bwysig yn cynhyrchu 20 miliwn o oriau cilowat (kWh) o drydan ers eu sefydlu yn 2013.
Mae hynny'n ddigon i bweru 5,300 o gartrefi am flwyddyn.
Mae 'na hefyd arbedion carbon o 5,600 tunnell, sydd gyfwerth â gwaith tua 1.2 miliwn o goed.
Nid yn unig bod y system yn cynhyrchu egni ar gyfer safleoedd yr ymddiriedolaeth, ond mae unrhyw drydan dros ben yn cael ei werthu yn ôl i'r grid, a'r elw yn ariannu prosiectau cadwraethol lleol.
Mae'r cynllun hydro mwyaf wedi'i leoli ar Fferm Hafod y Llan yn Nant Gwynant, ac Arwyn Owen ydy rheolwr y fferm.
"Mae'n glawiad ni fan hyn yn 100 modfedd y flwyddyn ac wedyn mae'n serth iawn - a dyna mae rhywun eisiau i hydro - felly mae o'n lle gwych i gynhyrchu ynni adnewyddol," meddai.
"O ran y gymuned leol a ni fel fferm, mae 'di dod â buddion sylweddol. Yn amlwg mae'n ffordd arall o arallgyfeirio.
"Y peth mawr i mi hefyd ydy bod rhywun yn gwarchod y tir ac mae rhywun yn edrych lle mae'r hydro wedi mynd mewn - a'r gwir ydy, toes neb dim callach.
"Mae 'na ddegau o filoedd o bobl yn cerdded ar hyd llwybr Watkin a tydyn nhw ddim yn gwybod lle mae'r hydro.
"'Da chi'n cynhyrchu ynni a'n cynnal y gymdeithas ac eto does neb yn siŵr lle mae'r hydro ac yn gweld dim hoel ar ei ôl o."
'Tystiolaeth o'r newid'
Gyda'r safle mwya' ar lethrau'r Wyddfa uwchlaw Hafod y Llan, mae gan yr ymddiriedolaeth wyth cynllun hydro yn yr ardal i gyd.
Mae faint o drydan sy'n cael ei gynhyrchu'n amrywio, gan roi cipolwg gwerthfawr o effeithiau newid hinsawdd ar ynni adnewyddol.
"Yn y dechrau roeddan ni'n gweld llif oedd yn eitha' cyffredin ar draws y lle, ond 'dan ni'n gweld mwy o stormydd rŵan nag ar y dechrau," meddai Trystan Edwards, rheolwr cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Eryri.
"Y mis mwya' gwlyb oedd adeg Storm Desmond yn Rhagfyr 2015 ond 'dan ni wedi gweld mwy ohonyn nhw, yn enwedig ym mis Mawrth a Chwefror rhyw dair blynedd yn ôl.
"Wedyn yn yr haf 'dan ni'n gweld y glaw yn dod ar ôl cyfnodau sych ofnadwy.
"'Dan ni'n gweld newidiadau dros amser ac wedyn am fod gennym ni dechnoleg fel hyn yn cadw cyfrifon manwl, bob chwarter awr, 'dan ni'n mynd i weld mwy a mwy o'r dystiolaeth o'r newid yn digwydd."
'Edrych ar gyfleoedd amgen'
Mae ynni adnewyddol yn rhan sylweddol o gynlluniau'r ymddiriedolaeth i fod yn ddi-garbon o fewn wyth mlynedd.
Ychwanegodd Mr Edwards: "O'dd o'n sicr yn wers fawr i ni fod yn datblygu'r rhain ac mi fyddwn ni'n parhau i'w wneud o, o ran lleihau'r defnydd o garbon yn y lle cynta' ond hefyd wrth edrych ar dechnoleg newydd.
"Bob tro fydd ganddon ni brosiect ar dir fferm neu adeilad fel plas, er enghraifft, 'dan ni'n edrych ar gyfleoedd amgen sydd 'na i gynnal pŵer, i wresogi'r llefydd 'ma, a thrio cael cartrefi clyd i bobl fyw ynddyn nhw ond sydd ddim yn llosgi carbon."
Y gobaith ydy adeiladu ar lwyddiant cynlluniau hydro Hafod y Llan ac eraill, ond gyda'r pwyslais ar warchod y tirwedd a chynefinoedd Eryri yr un pryd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2021