Tân ar stad ddiwydiannol Glan-yr-afon yn Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Mae'r tân a wnaeth gynnau yn storfa Cyngor Sir Ceredigion ar stad ddiwydiannol Glan-yr-afon ar gyrion Aberystwyth bellach o dan reolaeth.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canol a Gorllewin Cymru eu galw i'r digwyddiad yn Llanbadarn Fawr toc cyn 13:50 ddydd Mawrth.
Un adeilad oedd yn gysylltiedig â'r tân. Dywedodd y gwasanaeth tân ei fod yn cael ei ddefnyddio fel lle i storio a bod paent a thuniau nwy y tu fewn iddo.
Dywedodd Cyngor Ceredigion mai stordy cyffredinol oedd yno.
Ar un adeg roedd pedair injan dân yno ac roedd swyddogion o Heddlu Dyfed-Powys hefyd ar y safle.
Bu'r brif ffordd heibio'r stad ddiwydiannol yn Llanbadarn Fawr ar gau am gyfnod ac roedd pobl yn cael eu hannog i gadw eu ffenestri ar gau ac i aros adref.