Gweinidog am weld Cymru'n adeiladu bysus trydan

  • Cyhoeddwyd
bus trydan
Disgrifiad o’r llun,

Erbyn diwedd 2022 bydd hanner bysus Casnewydd yn rhai trydan, ond rhai o China

Dylid adeiladu bysus trydan mewn ffatrïoedd yng Nghymru yn hytrach na'u prynu o China, yn ôl gweinidog llywodraeth.

Dywedodd y dirprwy weinidog dros newid hinsawdd, Lee Waters AS, byddai hynny'n creu swyddi gwyrdd yma, ac mae wedi sefydlu tasglu i ystyried codi ffatri yng Nghymru.

Ond fe ddywed pennaeth cwmni sy'n adeiladu bysus trydan yn Sir Gogledd Efrog ei fod wedi holi Llywodraeth Cymru am agor ffatri yma, ond na chafodd "fawr o ymateb".

Dywedodd Mr Waters: "Yr hyn yr hoffwn wneud yw creu cwmni Cymreig i wneud hyn.

"Os na wnawn ni'r ymdrech, 'neuth hyn fyth ddigwydd. Mae yna wobr i ni fan hyn os wnawn ni ymyrryd i greu swyddi gwyrdd Cymreig."

Ond un o'r ychydig gwmnïau yn y DU sydd eisoes yn gwneud bysus trydan yw Switch Mobility, ac mae eu pennaeth wedi dweud ei fod wedi ceisio dod â swyddi i Gymru.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Andy Palmer brofiad o adeiladu ffatri yng Nghymru yn barod

Dywedodd Andy Palmer, y prif weithredwr, fod ei ffatri yn Sir Gogledd Efrog yn llawn a'i fod am sefydlu rhai newydd.

"Rwy'n chwilio o gwmpas am lefydd i ehangu, ac fe wnes i edrych ar Gymru gan mod i wedi adeiladu ffatri geir yng Nghymru o'r blaen... ond hyd yma ches i fawr o ymateb," meddai.

Roedd Mr Palmer yn gyfrifol am ddod â ffatri Aston Martin i Fro Morgannwg, ac ychwanegodd fod y bysus y mae ei gwmni yn eu hadeiladu nawr wedi eu gwneud o fewn y DU gyda chydrannau yn dod o ddim pellach nag Ewrop.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i hybu Cymru fel lleoliad gwych i gwmnïau fuddsoddi ynddo. Byddai'n amhriodol i ni wneud sylw am fuddsoddiad unigol nac i roi manylion o unrhyw drafodaethau allai fod yn digwydd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Scott Pearson y byddai'n prynu bws o Gymru - petai'r ansawdd a'r pris yn gymharol â cherbydau o China

Yng Nghymru, mae cwmnïau bysus Casnewydd a Chaerdydd eisoes wedi prynu bysus trydan o China gan gwmni o'r enw Yutong.

Dadl Mr Waters yw bod hyn yn golygu fod miliynau o bunnoedd wedi gadael Cymru, ond fe wnaeth ganmol y ddau gwmni am symud tuag at drafnidiaeth glanach.

Erbyn diwedd 2022, mae disgwyl i gwmni Trafnidiaeth Casnewydd fod â 48 o fysus trydan Yutong, sef hanner y fflyd.

Dywedodd y rheolwr gyfarwyddwr, Scott Pearson, y byddai'n prynu bysus Cymreig os fyddai'r pris a'r cerbydau eu hunain yn ddigon da.

Bydd y tasglu newydd a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystyried opsiynau am ffatri bysus trydan yng Nghymru. Mae'n rhy gynnar i wybod a fyddai Llywodraeth Cymru yn berchen ar y ffatri, neu a fyddai cwmnïau o'r tu allan i Gymru yn cael eu denu yma.

Pynciau cysylltiedig