'Dylid llacio cyfyngiadau i'w lefel cyn Omicron'
- Cyhoeddwyd
Dylai Llywodraeth Cymru ystyried llacio cyfyngiadau Covid i'w lefelau cyn i'r amrywiolyn Omicron ddod i'r amlwg, yn ôl epidemiolegydd blaenllaw.
Mae tystiolaeth o salwch llai difrifol, ynghyd â'r amddiffyniad o frechiadau atgyfnerthu, medd yr Athro John Watkins o Brifysgol Caerdydd, yn golygu bod lefel y bygythiad yn debyg i'r hyn oedd yn yr hydref.
"O'r data o lefydd fel Yr Alban a Llundain, mae mewn gwirionedd yn achosi clefyd llai difrifol, mae llai yn yr ysbyty ac felly mae llai o farwolaethau," meddai, "felly mae'n ymddangos yn glefyd ysgafnach, ond un fwy trosglwyddadwy."
Ond yn ôl un meddyg o'r Gymdeithas Feddygol Brydeinig (BMA), dylai Cymru gadw at y mesurau presennol am "bythefnos i bedair wythnos" tan i'r don hyn o Covid-19 basio.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn cadw golwg manwl ar yr holl fesurau sydd wedi eu cyflwyno mewn ymateb i'r amrywiolyn Omicron.
Yn y cyfamser mae'r Ceidwadwyr wedi galw ar y llywodraeth i ail-ystyried y cyfyngiadau, a chyflymu cymorth ariannol i fusnesau.
Dywedodd yr Athro Watkins bod hyd at 90% o bobl dros 70 oed wedi cael brechlyn atgyfnerthu.
"Oedran yw'r prif ffactor risg ar gyfer canlyniadau gwael," meddai.
"Yn y grwpiau hynny rydym yn gweld yr un effeithiolrwydd ag yn achos amrywiolyn Delta gyda dau frechlyn, felly rwy'n credu ein bod wedi symud ein hunain yn ôl i'r sefyllfa lle'r oeddem yn yr hydref."
Roedd Llywodraeth Cymru, meddai, yn gywir i weithredu'n bwyllog ym mis Rhagfyr pan roedd cryn ansicrwydd ynglŷn â'r perygl.
Ond mae bellach yn dadlau bod hi'n briodol i ystyried dychwelyd i sefyllfa debyg i'r un ym mis Tachwedd ac o bosib cael yr un cyfyngiadau â Lloegr.
'Cleifion yn ofn marw mewn ystafelloedd aros'
Yn ôl yr Athro Philip Banfield o'r BMA, fe ddylai cyfyngiadau presennol Cymru aros yn eu lle am bythefnos i bedair wythnos oherwydd ei fod yn "ofni bod y GIG yn cael eu taflu dros y dibyn".
Dywedodd: "Aethom ni i mewn i'r pandemig gyda nifer rhy fach o staff a nifer rhy fach o welyau, a system gofal cymdeithasol oedd yn dadfeilio.
"Ry'n ni'n cael adborth am y tro cyntaf am ddoctoriaid dan straen am eu hanallu i asesu cleifion yn yr uned frys.
Ychwanegodd: "Rwy'n derbyn adborth gan gyd-weithwyr sy'n feddygon teulu yn dweud nad yw cleifion eisiau mynd i'r ysbyty oherwydd eu bod ag ofn marw yn yr ystafell aros neu yn yr uned frys.
"Chafodd ein hysbytai ddim mo'u hadeiladu i ynysu niferoedd mawr o bobl."
Eglurodd yr Athro Banfield fod y niferoedd mawr o bobl sy'n cael eu heintio gyda'r amrywiolyn Omicron yn golygu bod y nifer fach o bobl sy'n gorfod mynd i'r ysbyty yn "bygwth taflu'r GIG yn Nghymru dros y dibyn".
"Yr adborth ry'n ni wedi cael wrth ymgynghorwyr ar y rheng flaen yw nad yw nhw erioed wedi ei gweld hi cynddrwg â hyn."
Mae'r Athro Watkins, sydd wedi cynghori Llywodraethau'r DU a Chymru, yn cyfaddef bod "lefelau haint enfawr" yn sgil Omicron yn rhoi straen ar y GIG, yn enwedig o ran y lefelau uchel absenoldebau staff.
Ond mae'n dweud na fydd y cyfyngiadau ynddo'u hunain yn helpu'r GIG ymdopi.
Yn hytrach, mae o blaid rheolau hunan-ynysu llai caeth i bobl sydd wedi cael tri phigiad.
Mae'r Athro Watkins yn credu "ein bod bellach yn yr un sefyllfa ag yr oeddem" cyn y Nadolig, "pan welsom 80,000 o bobl" yn gwylio gemau rygbi Cyfres yr Hydref yn Stadiwm Principality Caerdydd "a ni welsom gynnydd o ran achosion, mynediadau ysbyty na marwolaethau".
Ychwanegodd: "Rwy'n credu ein bod yn symud mwy tua'r sefyllfa honno, felly fy marn yw bod hi'n bryd i'w hadolygu ac fe ddylen ni, fwyaf tebyg, aildrefnu ein hunain gyda'r ffordd ymlaen yn Lloegr."
"Dylen ni symud o'r cyfyngiadau a osodwyd ar ben yr hyn roeddem yn ei wneud cyn Omicron," meddai. "A dylai'r rhai sydd wedi cael tri brechiad fod yn fwy rhydd i fynd i'r gwaith ac ati.
"Mae wnelo hyn â bod yn gymesur. Mae clefyd symptomatig yn un peth, ond pobl heb symptomau sy'n cael prawf positif, mwyaf tebyg, â risg drosglwyddo eithaf ac yn annhebygol o roi unrhyw baich ar y system gofal iechyd."
Mae'n dadlau y dylai'r ffaith bod yna lai nag arfer o salwch traddodiadol misoedd y gaeaf, fel y feirws anadlol RSV a'r ffliw, helpu'r gwasanaeth iechyd hefyd.
"Rydym yn aml yn gweld cannoedd o bobl yn mynd i'r ysbyty," meddai. "Rydym yn cadw golwg manwl ar feirysau yn y gymuned, mewn ysbytai ac undebau gofal dwys a dyw'r feirysau eraill hyn ddim yn bresennol.
"Gwelsom rywfaint o RSV ymhlith plant cyn Nadolig, ond mae'r brig hwnnw wedi gostwng a rydyn ni wedi gweld bron dim ffliw.
"Felly, mewn gwirionedd, mae'r galw sydd i'w ddisgwyl yr adeg yma o'r flwyddyn yn alw yr ydym wedi'i weld, a does dim cymhariaeth â rhai o'r epidemigau ffliw gwaethaf o'r gorffennol."
Omicron 'i leihau'n naturiol'
Mae'r Athro Watkins hefyd yn dweud er bod y don Omicron bresennol yn achosi "miliynau o heintiadau bob wythnos yn y DU" mae'n hyderus y bydd yn gostwng yn y pen draw i lefelau cymharol isel a dylai "bywyd normal" fod yn bosib yn gynnar eleni.
"Wrth iddo symud drwy'r boblogaeth... bydd yn lledaenu'n naturiol i'n rhan fwyaf o sectorau'r boblogaeth lle mae pobl yn dueddol o ddioddef, ac felly mae'n mynd i leihau yn naturiol, ond dydw i ddim yn meddwl y bydd yn lleihau nes diflannu'n llwyr.
"Rwy'n credu y bydd yn lleihau i lefelau isel ac yn parhau i drosglwyddo o blith y boblogaeth, fel ein bod yn dod i sefyllfa fwy arferol.
"Bydd rhaid i ni bwyso a mesur pryd ddylen ni ddychwelyd i fywyd normal. Rwy'n amau y bydd hynny yn 2022 ac yn gobeithio fydd hynny yn gynnar yn 2022, nid yn hwyr."
Mae'n dadlau bod brechlynnau a thriniaethau newydd y pandemig yn golygu bod cymdeithas, wrth symud ymlaen, mewn sefyllfa gryfach i ddelio â Covid na'r feirysau anadlol eraill.
"Rydym mewn sefyllfa lawer cryfach nawr na flwyddyn yn ôl ac mae'n bosibl ein bod, mewn rhai ffyrdd, mewn sefyllfa lawer cryfach nag yr ydym wedi bod gyda chlefydau eraill y gaeaf, fel y ffliw a RSV.
"Yn achos RSV, does dim brechlyn neu driniaeth sy'n cael eu defnyddio'n eang ar hyn o bryd, felly mewn gwirionedd rwy'n credu wrth symud ymlaen y gallwn fod yn eithaf positif am hyn."
'Ymateb cymesur i fygythiad Omicron'
Mae Gweinidogion Cymru yn adolygu cyfyngiadau Covid-19 yn wythnosol ac mae disgwyl casgliadau'r adolygiad diweddaraf ddydd Gwener.
Ers Gŵyl San Steffan mae cyfyngiadau llymach yn y sector lletygarwch, mae clybiau nos ar gau ac mae digwyddiadau chwaraeon mawr yn cael eu cynnal tu ôl i ddrysau caeëdig.
Ddydd Iau, dywed y Ceidwadwyr Cymreig y dylai Llywodraeth Cymru ailfeddwl y cyfyngiadau sydd wedi eu gosod ar ddigwyddiadau yn y maes chwaraeon a'r maes lletygarwch.
"Ni ddylai busnesau orfod aros tan 17 Ionawr i allu gwneud cais am gefnogaeth - mae angen rhyddhau'r arian yna nawr," meddai Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.
Daw ei sylwadau cyn i Lywodraeth Cymru benderfynu dydd Gwener ar y camau nesaf yn eu hadolygiad o'r rheolau Covid.
Galwodd Mr Davies hefyd am gael gwared ar y rheol sy'n dirwyo gweithwyr os ydynt yn mynd i'r gweithle pe bai'r gallu ganddynt i weithio o adref.
Gan gyfeirio at y cyfyngiadau ar chwaraeon dywedodd: "Mae angen i'r Llywodraeth Lafur graffu ar y synnwyr o osod cyfyngiadau chwaraeon, gan gynnwys pethau fel Parkrun, gan ystyried nid yn unig iechyd meddwl, ond fel bod Cymru hefyd yn gallu chwarae gemau'r Chwe Gwlad yma ac i gefnogwyr wario eu harian yma."
Dywedodd ei fod yn croesawu'r newidiadau diweddar i reolau ynglŷn â hunan-ynysu gan ddweud ei fod yn gobeithio fod hyn yn dangos fod cymdeithas yn symud i gyfeiriad o "normalrwydd".
Beth mae'r llywodraeth yn ei ddweud?
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod eu hymateb ers dechrau'r pandemig wedi bod ar sail gwyddoniaeth a thystiolaeth, a bod amrywiolyn Omicron yn eithriadol o heintus.
"Er bod astudiaethau cychwynnol yn cynnig gobaith o ran difrifoldeb y clefyd, rydym yn gweld niferoedd mawr o bobl yn cael eu heintio, gan achosi sgil-effeithiau ar wasanaethau cyhoeddus a'r economi oherwydd absenoldebau staff," meddai.
"Rydym hefyd yn gweld niferoedd cynyddol o bobl â Covid-19 yn mynd i'r ysbyty ar adeg pan fo'r GIG eisoes ar ei brysuraf.
"Mae'r mesurau a'r canllawiau cryfach, a gyflwynwyd o Ŵyl San Steffan, yn ymateb cymesur i fygythiad Omicron i iechyd y cyhoedd.
"Mae'r Cabinet yn cadw golwg fanwl ar yr holl fesurau a gyflwynwyd mwyn ymateb i Omicron."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2022