Teyrngedau i Iwan Gwyn fu farw mewn damwain beic dŵr yn Ghana
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn o Lanaelhaearn ger Pwllheli wedi iddo farw mewn damwain beic dŵr yn Ghana.
Dywedodd teulu Iwan Gwyn, 49, y bydd "colled enfawr ar ei ôl".
Mewn datganiad dywed y teulu bod y ddamwain wedi digwydd ar ynys ger Accra, prifddinas Ghana, ar 30 Rhagfyr.
Roedd o a'i deulu wedi mynd yno i ddathlu'r Nadolig. Fel arfer byddai ef a gweddill y teulu wedi dod adre' i ogledd Cymru ond fe benderfynont aros yn Ghana yn sgil Covid-19.
Roedd Mr Gwyn wedi byw a gweithio fel rheolwr prosiect adeiladu yn Accra ers naw mlynedd.
Fel rhan o'i waith i gwmni Eidalaidd Barbisotti roedd o'n gyfrifol am ysbytai, adeiladau llywodraeth ac yn fwy diweddar roedd yn arwain y gwaith o adeiladu cadeirlan aml-ffydd.
Cyn hynny arferai weithio yn Nulyn.
Mae'n gadael gwraig Annie a thri o blant; Ben, Megan a Laura.
Roedd ganddo gysylltiadau agos, medd y teulu, â Chlwb Rygbi Pwllheli, a bu'n chwarae iddynt ers yn blentyn. Roedd hefyd yn chwarae pêl-droed i Nefyn, yn gefnogwr Lerpwl selog ac yn chwaraewr sboncen brwd.
Mae'r teulu ar hyn o bryd yn ceisio dod â chorff Iwan adref ac maent yn dymuno diolch i bawb am gefnogaeth sydd wedi bod o gysur i'r teulu.
"Fe fydd yn cael ei golli gan bawb," ychwanegont.
'Gadael stamp nad a'n angof'
Roedd cynghorydd tref Pwllheli, Michael Parry, yn adnabod Iwan Gwyn yn dda ac wrth roi teyrnged iddo dywedodd wrth Cymru Fyw bod y golled yn "ergyd ofnadwy".
"Roedd o'n hogyn hoffus iawn ac mor boblogaidd - roedd hi'n hawdd iawn licio fo.
"Roedd yna lot fawr o barch tuag ato. Mae'n drasiedi fawr.
"Roedd o'n hogyn ffit ac yn cymryd rhan mewn lot o chwaraeon yn lleol - pêl-droed ond rygbi yn bennaf. Roedd o'n dod o Lanaelhaearn ond yn treulio llawer iawn o amser yma ym Mhwllheli gan ei fod yn rhan amlwg o'r clwb rygbi.
"Do wir mae o wedi gadael stamp nad a'n angof - newyddion sobor o drist."
Dywedodd cynghorydd lleol Llanaelhaearn, Aled Wyn Jones, wrth BBC Cymru Fyw ei fod yn rhannu ei gydymdeimlad gyda'r teulu "yn eu profedigaeth ar adeg mor ddiflas".
'Un o'r hogia'
Ar ran Clwb Rygbi Pwllheli dywedodd y Cadeirydd Wil Martin: "Daeth y newyddion yn hollol annisgwyl. Roeddwn i'n adnabod Iwan yn dda iawn.
"Ro'dd o'n andros o chwaraewr rygbi da i ni yma ym Mhwllheli ac roedd o hefyd yn bel-droediwr da - yn chwarae i Nefyn.
"Mi o'dd o'n hogyn poblogaidd, yn un o'r hogia os mynnwch chi. Mi dreuliodd lot fawr o amser yma yn y clwb - roedd o'n hynod weithgar ac yn hogyn clyfar hefyd.
"Dwi'n cofio fo'n dod 'efo ni i weld y Llewod am fis ar ddechrau'r ganrif 'ma - a do mi gawson ni lot fawr o hwyl.
"Dan ni wedi cael sioc ofnadwy ac yn meddwl am ei deulu yma yn lleol."
Dywedodd y clwb mewn teyrnged ar y cyfryngau cymdeithasol ei fod wedi eu cefnogi "erioed" a'u bod yn rhannu eu cydymdeimlad gyda'r teulu yn sgil y newyddion trist.
"Dydi bywyd ddim yn deg. Cysga'n dawel Iwan."