Gemau cofiadwy timau Cymru yng Nghwpan FA Lloegr

  • Cyhoeddwyd
xx

Mae Cwpan FA Lloegr yn dathlu ei benblwydd yn 150 oed eleni. Mae'n benwythnos sy'n fêl ar fysedd cefnogwyr pêl-droed Cymru a Lloegr wrth i'r timau bach gael cyfle i herio'r timau mawr. Mae chwedlau lu o ganlyniadau a goliau syfrdanol sydd wedi dod i gynrychioli hudoliaeth y gwpan hynafol dros y blynyddoedd.

Un o'r rheiny oedd pan enillodd Wrecsam yn erbyn Arsenal, dolen allanol 30 mlynedd yn ôl diolch i gic rydd enwog Mickey Thomas a gôl fuddugol Steve Watkin.

Doedd neb wedi disgwyl i Wrecsam, oedd wedi gorffen ar waelod Cynghrair Pêl Droed Lloegr - yr olaf o'r 92 clwb - drechu pencampwyr Lloegr y diwrnod hwnnw.

Ond fel mae record anrhydeddus timau Cymru o guro'r cewri yn y gystadleuaeth yn dangos, gall unrhyw beth ddigwydd yng Nghwpan FA Lloegr.

Y diweddaraf sy'n neidio i'r cof ydy buddugoliaeth annisgwyl Casnewydd yn erbyn Caerlŷr yn 2019. Ond mae yna lu o gemau sydd werth eu cofio, dyma gipolwg arnyn nhw.

Aberdâr Athletic 1-0 Luton Town (1926)

Ffynhonnell y llun, RCAHMW
Disgrifiad o’r llun,

Ynys Park, cartref Clwb Pêl-droed Aberdâr Athletic pan oedden nhw yn chwarae yng nghynghrair Lloegr

Roedd Aberdâr yn aelodau o Gynghrair Lloegr rhwng 1921 a 1927. Yn 1926 fe gyrhaeddodd Aberdâr drydedd rownd Cwpan yr FA, drwy guro Bristol Rovers 4-1 yn y rownd gyntaf a Luton Town 1-0 yn yr ail rownd.

Colli wnaeth Aberdâr yn y drydedd rownd yn erbyn Newcastle United, ac fe adawodd Aberdâr Cynghrair Lloegr y flwyddyn ganlynol.

Merthyr Tudful 3-1 Bristol Rovers (1947)

Disgrifiad o’r llun,

Parc Penydarren, cartref y Merthyron

Fe gyrhaeddodd Merthyr ail rownd Cwpan yr FA ar bump achlysur rhwng 1947 ac 1991.

Daeth eu buddugoliaeth fwyaf nodedig yn 1947 pan wnaethon nhw ennill o 3-1 gartref yn erbyn Bristol Rovers.

Y Rhyl 3-1 Notts County (1957)

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Anaf i un o'r chwaraewyr yn y gêm rhwng Y Rhyl a Bristol City, 26 Ionawr, 1957

Yn 1957 fe enillodd Y Rhyl 3-1 yn erbyn Notts County oddi cartref ym Meadow Lane yn nhrydedd rownd Cwpan yr FA. Roedden nhw wedi ennill yn erbyn Scarborough a Bishop Auckland yn y ddwy rownd gyntaf, ond roedd curo Notts County o ail adran Lloegr yn dipyn o gamp ar y pryd. Collodd Y Rhyl oddi cartref yn erbyn Bristol City yn y bedwaredd rownd.

Abertawe 2-1 Lerpwl (1964)

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Carfan Abertawe yn gadael am Lerpwl, 27 Chwefror, 1964

Mae Abertawe wedi cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan FA Lloegr ddwywaith. Yn 1926 fe gurodd Abertawe Arsenal 2-1 yn y chwarteri cyn mynd 'mlaen i golli 3-0 yn erbyn Bolton.

Ond yn 1964 fe enillodd Abertawe o 2-1 yn erbyn Lerpwl yn Anfield i gyrraedd y rownd gynderfynol. Roedd tîm Lerpwl yn cynnwys yr ymosodwyr enwog Roger Hunt ac Ian St John, ac fe enillon nhw bencampwriaeth yr Adran Gyntaf y tymor hwnnw. Collodd Abertawe o 2-1 yn erbyn Preston North End yn Villa Park yn y rownd gynderfynol.

Caernarfon 2-1 York City (1987)

Disgrifiad o’r llun,

Yr Oval yn llawn ar gyfer y gêm gyfartal yn erbyn Barnsley, Ionawr 10, 1987

Roedd Caernarfon yn chwarae yn Uwch Gynghrair Gogledd Lloegr pan wnaethon nhw gyrraedd trydedd rownd Cwpan FA Lloegr yn 1987. John King oedd y rheolwr ar y pryd, gŵr ddaeth a llwyddiant mawr i Tranmere yn ddiweddarach.

Roedd yna fuddugoliaeth i'r Cofis yn erbyn Stockport County (o'r bedwaredd adran) yn y rownd gyntaf cyn iddynt guro York City (o'r drydedd adran) yn yr ail rownd. Barnsley (o'r ail adran) oedd y gwrthwynebwyr yn y drydedd rownd.

Er gwaetha'r gêm gyfartal ar yr Oval fe gollodd y Caneris y gêm ail-chwarae yn Oakwell o gôl i ddim.

Wrecsam 2-1 Arsenal (1992)

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Steve Watkin a Mickey Thomas, arwyr Wrecsam yn dathlu wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Arsenal

Mae Wrecsam wedi cyrraedd rownd wyth olaf y gwpan dair gwaith, yn 1974, 1978 ac yn 1997. Ond mae'n siŵr mai'r fuddugoliaeth fwyaf cofiadwy oedd honno yn erbyn Arsenal yn y drydedd rownd yn 1992.

Arsenal oedd pencampwyr Lloegr ar y pryd ac roedd Wrecsam yng ngwaelodion y bedwaredd adran. Gydag wyth munud i fynd roedd Arsenal ar y blaen, ond fe sgoriodd Mickey Thomas gyda tharan o gic rydd, cyn i Steve Watkin sgorio'r gôl sy'n achosi hunllefau i gefnogwyr y Gunners hyd heddiw.

Caerdydd 2-1 Leeds United (2002)

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Scott Young yn sgorio gyda tair munud o'r gêm ar ôl i roi buddugoliaeth i'r Adar Gleision

Mae Caerdydd wedi bod yn y rownd derfynol dair gwaith gan godi'r cwpan yn erbyn Arsenal yn 1927. Colli wnaeth yr Adar Gleision yn Wembley yn 1925 yn erbyn Sheffield United a 2008 yn erbyn Portsmouth.

Ond rhwng y ddau gyfnod llewyrchus rheiny roedd yn rhaid i Gaerdydd frwydro yn galed i wneud marc yn y gystadleuaeth. Ymhlith y canlyniadau cofiadwy yn y cyfnod hwn oedd y fuddugoliaeth yn erbyn Leeds United ym Mharc Ninian yn Ionawr 2002. Ar y pryd roedd Leeds yn chwarae yng Nghwpan UEFA, gyda gôl-geidwad Lloegr Nigel Martyn a'r ymosodwyr Robbie Keane a Mark Viduka yn eu plith.

West Ham 0-1 Wrecsam (1997)

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Wrecsam yn dathlu gôl fuddugol Kevin Russell yn erbyn West Ham yn 1997

Buddugoliaeth arall cofiadwy i Wrecsam ydy ennill o un gôl oddi gartref yn Upton Park yn erbyn West Ham yn 1997. Yn dilyn gêm gyfartal 1-1 mewn eira mawr yn y drydedd rownd yng Nghae Ras taith i Lundain oedd hi i ddynion Bryan Flynn, oedd yn arwain Wrecsam yn Ail Gynghrair Lloegr ar y pryd.

Siwrna' llawn dathlu oedd hi i gefnogwyr Wrecsam yn ôl fyny'r M1 yn dilyn gôl anhygoel gan Kevin Russell yn y funud olaf. Yn y cyfamser daeth rheolwr West Ham, Harry Redknapp, o dan y lach wrth i gefnogwyr y clwb lifo ar y cae mewn protest.

Aeth y tîm ymlaen i ennill yn erbyn Peterborogh United a Birmingham City cyn colli o un gôl i Chesterfield yn yr wyth olaf.

Casnewydd 2-1 Leeds United (2017)

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Shawn McCoulsky yn dathlu wedi iddo sgorio ail gôl Casnewydd yn erbyn Leeds yn y fuddugoliaeth yn Rodney Parade

Cyrraedd y bumed rownd yn 1949 yw'r pellaf mae Casnewydd wedi mynd yng Nghwpan FA Lloegr hyd yma. Ond roedd y fuddugoliaeth i'r tîm o'r Ail Adran yn erbyn Leeds o'r Bencampwriaeth yn y drydedd rownd yn 2017 ymhlith y mwyaf cofiadwy.

Y wobr wedi'r fuddugoliaeth o ddwy gôl i un ydy wynebu Tottenham Hotpsur a'r dasg o drio cadw ymosodwr Lloegr, Harry Kane yn dawel.

Casnewydd 2-1 Caerlŷr (2019)

Disgrifiad o’r llun,

Padraig Amond ar ôl sgorio'r gôl fuddugol i Gasnewydd yn erbyn Leicester City yn 2019

A'r clwb wedi cael blas o greu stŵr yn y gwpan ddwy flynedd ynghynt roedd carfan Casnewydd yn barod am her arall yn erbyn Caerlŷr yn 2019.

Gyda Chaerlŷr yn yr Uwch Gynghrair a Casnewydd yn yr Ail Adran roedd 74 clwb yn gwahanu'r ddau dîm yn y cynghreiriau cyn y gêm.

Mater o gnoi ewinedd oedd hi i dorf Rodney Parade wrth i Gasnewydd amddiffyn yn dilyn gôl Jamille Matt ar ôl 10 munud. Roedd pethau'n edrych yn addawol tan i Gaerlŷr wneud hi'n gyfartal ar funud 82. Ond tri munud yn ddiweddarach chwythodd y dyfarnwr i roi cic o'r smotyn i'r tîm gartref a phwy llai nag arwr Casnewydd, Padraig Amond, i'w chladdu hi.

Aeth y tîm ymlaen i drechu Middlesbrough cyn colli yn erbyn Man City yn y bumed rownd.

Hefyd o ddiddordeb: