Y mab i Gymro a greodd hanes yn Ne Affrica

  • Cyhoeddwyd
charlieFfynhonnell y llun, Getty Images

Daeth system apartheid De Affrica i ben yn swyddogol yn 1990, a dros y 31 mlynedd ers hynny mae'r wlad wedi trawsnewid ei delwedd mewn sawl ffordd.

Er hyn mae systemau o cwotâu wedi bodoli dros y blynyddoedd diweddar i sicrhau bod cricedwyr a chwaraewyr rygbi du wedi cael cynrychiolaeth yn y timau cenedlaethol.

Nid tan 2018 y cafodd y Springboks, y tîm rygbi cenedlaethol, gapten du i'w harwain. Fe gododd Siya Kolisi Gwpan y Byd yn Japan 2019 ac mi fydd yn arwain ei wlad mewn gornest yn erbyn Cymru yng Nghaerdydd fis nesaf.

Ond dros ganrif yn ôl roedd hi'n stori dra wahanol, ble roedd sêr chwaraeon duon yn cael ei trin yn israddol.

Tad o Sir Benfro

Un o'r sêr yma oedd Charles Bennett Llewellyn, cricedwr hil-gymysg. Roedd ei fam, Ann Elizabeth Rich, yn dod o'r ynys fechan yng nghanol Cefnfor Yr Iwerydd, Saint Helena. Ond roedd ei dad Thomas 'Buck' Llewellyn, yn dod o Sir Benfro.

Cafodd Charlie ei eni allan o briodas yn Pietermaritzburg, Natal, ddim yn bell o ddinas Durban, ym mis Medi 1876.

Dangosodd ei ddoniau'n ifanc, roedd yn all-rounder medrus - batiwr llaw chwith, bowliwr llaw chwith oedd yn gallu troelli'r bêl, ac yn faeswr effeithiol iawn. Fe chwaraeodd dros Natal yn 18 oed, a blwyddyn yn ddiweddarach fe gynrychiolodd De Affrica am y tro cyntaf yn erbyn Lloegr yn Johannesburg ar 2 Mawrth, 1896.

Hiliaeth

Roedd hiliaeth yn amlwg iawn ym mywyd cyhoeddus De Affrica ar droad yr ugeinfed ganrif, ond er ei fod â llygaid tywyll a chroen gymharol dywyll roedd Llewellyn yn medru cuddio'r ffaith ei fod o dras cymysg. "Like a rather sunburned English player" oedd sut roedd cricedwr enwog Lloegr, Wilfred Rhodes, yn ei ddisgrifio.

Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Charlie Llewellyn dros 100 o rediadau 15 gwaith tra roedd gyda Hampshire

Er iddo gael ei dderbyn fel cricedwr safon dosbarth cyntaf o 1895 ymlaen, mae adroddiadau iddo gael ei gam-drin yn hiliol ar sail lliw ei groen yn ystod ei yrfa, yn cynnwys gan ei gyd-chwaraewyr yn y tîm cenedlaethol.

Wedi dechreuad digon sigledig gyda'r tîm cenedlaethol fe serennodd Llewellyn yn y cystadlaethau dosbarth cyntaf rhanbarthol yn Ne Affrica - y Cwpan Currie.

Roedd nôl yn y garfan genedlaethol yn 1898-1899 gan chwarae'n dda a chymryd pum wiced yn erbyn Lloegr yn y prawf cyntaf, ond fe gafodd ei adael allan o'r garfan ar gyfer yr ail brawf, ac roedd Llewellyn yn ofni efallai bod ei yrfa ryngwladol drosodd.

Gadael am Loegr

Ar ddiwedd y tymor 1898-1899 fe benderfynodd Llewellyn adael criced De Affrica gan arwyddo cytundeb proffesiynol gyda Hampshire. Cymaint oedd yr argraff a wnaeth fel ei fod yn rhan o garfan ehangach Lloegr. Ond gan fod gan Loegr gymaint o chwaraewyr dawnus - Ranjitsinhji, CB Fry ac Archie MacLaren yn eu plith - fe fethodd Llewellyn dorri fewn i'r tîm cyntaf.

Oherwydd ei fod yn chwarae yn Lloegr gyda Hampshire ar y pryd, cafodd Llewellyn ei anwybyddu gan ddewiswyr De Affrica pan oedd y wlad yn teithio yn Lloegr yn 1901. Yn hytrach, fe chwaraeodd Llewellyn dros Hampshire yn erbyn De Affrica.

Gan ddod fewn yn bumed i fatio fe sgoriodd Llewellyn 216 o rediadau mewn tair awr yn erbyn De Affrica, gan daro pêl dros y ffin 30 o weithiau. Fe berfformiodd yn wych, gan fowlio chwe phelawd yn ail fatiad De Affrica a hawlio pedair wiced ac ildio ond chwe rhediad.

Fe sylweddolodd De Affrica eu bod wedi gwneud camgymeriad wrth ddiystyru Llewellyn o'r tîm cenedlaethol, felly trefnwyd cyfarfod brys gyda ef. Fe chwaraeodd Llewellyn dros De Affrica am weddill y daith am £250, a oedd yn dipyn o arian ar y pryd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tîm Hampshire (tua 1906) - mae Charlie Llewellyn i'w weld yn y rhes gefn, trydydd o'r dde

Yn y blynyddoedd a ddilynodd fe chwaraeodd Llewellyn dros Dde Affrica yn ogystal â Hampshire, gan deithio miloedd o filltiroedd nôl a mlaen. Digwyddodd hyn tan Awst 1912, pan chwaraeodd ei gêm brawf olaf dros Dde Affrica.

Er iddo roi'r gorau iddi ar safon dosbarth cyntaf, fe chwaraeodd am flynyddoedd yng ngogledd Lloegr - ef oedd y chwaraewr prawf cyntaf i chwarae yng Nghynghrair Swydd Caerhirfryn (Lancashire), gan chwarae i glwb Accrington. Parhaodd i chwarae criced tan 1938, pan oedd yn 62 oed.

Torrodd ei glun yn 1960, ac roedd mewn cryn dipyn o drafferth gyda'r anaf am weddill ei fywyd. Bu farw yn Chertsey, Surrey yn 1964, yn 87 mlwydd oed.

Cael ei gofio hyd heddiw

Mae'n cael ei gofio fel dipyn o arwr yn Hampshire am chwarae 196 gêm dosbarth cyntaf yno dros ddegawd a sgorio 8,772 o rediadau a chael 711 wiced.

Wedi ei farwolaeth roedd dipyn o ffraeo ynglŷn â bywyd Charlie Llewellyn. Mewn cyfweliad yn 1976 dywedodd ei ferch ei fod yn fab i ddynes wen Seisnig, nid i ddynes ddu. Dywedodd ei ferch hefyd mai ffactorau ariannol arweiniodd iddo adael De Affrica yn 1899, nid hiliaeth.

Ond fe dystiodd eraill bod Charlie wedi dioddef hiliaeth tra roedd yn rhan o garfan De Affrica.

Yn ystod cyfnod apartheid roedd enw a delwedd Charlie Llewellyn yn cael ei ddefnyddio gan ymgyrchwyr a oedd yn dadlau bod pobl du neu gymysg yn gallu perfformio cystal â phobl wyn. Ac mae ambell sylwebydd criced heddiw yn dweud bod hil Llewellyn yn ffactor i esbonio'r ffaith ei fod mewn ac allan o'r garfan genedlaethol mor aml.

Charlie Llewellyn oedd y cyntaf i ymddangos mewn gêm brawf i Dde Affrica yn 1896. Ond roedd rhaid aros 97 mlynedd am ymddangosiad yr ail, pan chwaraeodd Omar Henry yn erbyn India ym mis Tachwedd 1992.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Omar Henry ei fod ef hefyd wedi dioddef hiliaeth yn ei yrfa criced yn Ne Affrica

Hefyd o ddiddordeb: