Ennill apêl i ddymchwel hen ysgol i greu llety i'r digartref
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Gwynedd wedi ennill apêl cynllunio fydd yn caniatáu adeiladu unedau i bobl ddigartref drwy ddymchwel cyn-adeilad ysgol.
Fis Ebrill penderfynodd aelodau o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri fynd yn groes i'w swyddogion cynllunio a gwrthod cais i adeiladu pum uned ar safle Hen Ysgol Glanwnion, Dolgellau.
Ymysg pryderon pwyllgor cynllunio'r parc oedd y trefniadau parcio a diffyg preifatrwydd i drigolion cyfagos.
Roedd Cyngor Tref Dolgellau hefyd yn poeni am "or-ddatblygiad a phwysau ychwanegol ar wasanaethau lleol".
Daeth hyn er gwaetha' dadleuon Adran Tai Cyngor Gwynedd fod dirfawr angen datblygiad o'r fath, gyda 27 person neu deulu wedi'u lleoli mewn cyfleuster argyfwng gwely a brecwast ym Meirionnydd yn ystod Chwefror 2021.
Mae arolygwyr cynllunio ar ran Llywodraeth Cymru bellach wedi caniatáu apêl Cyngor Gwynedd, fydd yn galluogi'r datblygiad i fynd yn ei flaen.
Mwy o bobl yn ddigartref
"Rydw i'n hynod falch ein bod bellach wedi derbyn hawl cynllunio i ddatblygu'r safle yma yn Nolgellau a fydd yn ein galluogi i gynnig y cymorth y mae ei angen ar ein trigolion lleol," meddai y cynghorydd Craig ab Iago, deilydd porttfolio tai Cyngor Gwynedd.
"Mae'n ffaith drist fod y nifer o bobl sy'n eu cyflwyno eu hunain yn ddigartref wedi cynyddu yn sylweddol ers dechrau'r pandemig, ac mae gwir angen darpariaeth o'r fath ym Meirionnydd.
"Yn wir, ers mis Ebrill 2021, rydym wedi derbyn 234 o gyfeiriadau digartref gan drigolion Meirionnydd, ac roedd 253 y flwyddyn flaenorol.
"Ar hyn o bryd, mae 33 o unigolion, cyplau a theuluoedd mewn llety argyfwng ym Meirionnydd, gan gynnwys 13 sy'n byw mewn un stafell yn unig megis gwely a brecwast. Nid wyf yn credu bod hyn yn dderbyniol ac mae'n amlygu'r angen am gynllun o'r fath yn yr ardal."
'Ddim yn addas i'r ardal'
Derbyniodd y parc 28 llythyr o wrthwynebiad i'r cynllun, gyda rhai yn honni nad oedd yn addas i'r ardal. Roedd eraill yn nodi bod yr ysgol a godwyd yn 1884 o "werth hanesyddol a diwylliannol i'r dref".
Serch hynny, nodwyd yn adroddiad yr arolygydd cynllunio, I Stevens, fod "arwyddocâd hanesyddol yr adeilad yn isel", gydag "angen wedi'i brofi am lety byw â chymorth i bobl sy'n wynebu digartrefedd ym Meirionnydd a Gwynedd".
Roedd Cyngor Gwynedd yn dadlau bod yr adeilad yn wag ers degawd ac yn dweud na allai'r adran ddigartrefedd "ymdopi" heb fod mwy o unedau tebyg yn cael eu hadeiladu.
Ychwanegodd y cyngor fod bwriad i adeiladu mwy o unedau ar draws y sir i gynnig llety dros dro tra'u bod yn chwilio am drefniant mwy parhaol i'w preswylwyr.
Ychwanegodd y cynghorydd Craig ab Iago: "Mae digartrefedd yn gallu effeithio unrhyw un ohonom ac am nifer o resymau gwahanol. Beth sy'n bwysig i mi ydi ein bod ni yn rhoi'r cyfle a'r gefnogaeth orau bosib i bobl Gwynedd fedru byw yn annibynnol o fewn eu cymuned leol.
"Ein nod ni ydi gallu sicrhau bod gan bobl Gwynedd fynediad at gartref o safon, sy'n fforddiadwy ac sy'n gwella ansawdd eu bywyd. Mae datblygiad fel hwn yn rhoi'r cyfle i unigolion ailsefydlu mewn cymdeithas drwy ddarparu'r gefnogaeth y maen nhw ei angen er mwyn gallu cynnal tenantiaeth eu hunain i'r dyfodol.
"Rwy'n edrych ymlaen i weld y datblygiad wedi'i orffen, a'r cyfleoedd a'r effaith positif y mae hynny am ei gael ar rai o drigolion mwyaf bregus y gymuned yma yn ne Meirionnydd."
Mae cais wedi cael ei roi i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri am sylw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2021