Perchnogion tai i gael arian i roi llety i'r digartref

  • Cyhoeddwyd
Julie JamesFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y Gweinidog Julie James yn cyfarfod â Jonathan Lewis, 42 o Abertawe, sydd wedi elwa o gynllun peilot

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig arian i berchnogion eiddo i'w rhentu i bobl ddigartref mewn ymgais i ddod â'r argyfwng tai i ben.

Bydd pot cyllido pum mlynedd gwerth £30m ar gael i helpu awdurdodau lleol i annog pobl i ganiatáu i'w heiddo gael eu defnyddio fel cartrefi fforddiadwy.

O dan gynllun prydlesu'r Sector Rhent Preifat, dolen allanol, bydd perchnogion eiddo yn gallu prydlesu (lease) eu tai i gynghorau.

Byddan nhw wedyn yn gallu eu prydlesu i'r rhai sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, neu'n profi digartrefedd.

Yn gyfnewid am hyn, cynigir rhent ac arian gwarantedig i landlordiaid i wneud gwelliannau yn yr adeilad.

Yna bydd tenantiaid yn elwa o brydles tymor hir rhwng pump i 20 mlynedd, ac yn cael help i wella eu sefyllfa fel cymorth iechyd meddwl neu gyngor rheoli dyledion ac arian.

Mae disgwyl i'r gweinidog newid hinsawdd, Julie James, fanylu ar y cynllun - sydd eisoes yn cael ei beilota mewn ambell i sir - yn y Senedd ddydd Mawrth.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd y rhaglen yn eistedd ochr yn ochr â'i nod i adeiladu 20,000 o dai carbon isel, o ansawdd da a fforddiadwy i'w rhentu dros y pum mlynedd nesaf.

Dywedodd Ms James mai ei blaenoriaeth yw adeiladu ar lwyddiannau'r pandemig ac "atal digartrefedd a sicrhau, pan mae'n digwydd, ei fod yn brin, yn fyr a ddim yn cael ei ailadrodd".

Diolchodd y gweinidog hefyd i'r rhai sy'n gweithio i leddfu digartrefedd am eu "gwaith rhyfeddol".

Mae'n debyg i'r cynllun gael ei lunio gan argymhellion Grŵp Gweithredu Digartrefedd, panel sy'n cynnwys arbenigwyr annibynnol, a oedd yn canolbwyntio ar y materion sy'n arwain at ddigartrefedd.

Cynllun i 'roi sicrwydd' tymor hir

Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd Heddyr Gregory, o elusen digartrefedd Shelter Cymru, fod tua "15,000 o bobl wedi profi neu wedi bod o dan fygythiad o ddigartrefedd" ers y pandemig.

"Mae nifer o bethau yn y ddogfen yma - ond un o'r pethau mwyaf blaengar efallai yw y cynllun lesio y sector preifat - neu y private rented sector leasing scheme - sydd yn rhoi cyfle i landlordiaid sydd â thai neu rhyw fath o eiddo gyda nhw i drosglwyddo y cyfrifoldeb am yr eiddo hwnnw i'r awdurdod lleol. A bydd yr awdurdod lleol wedyn yn rhentu i'r tenantiaid.

"Mae hyn yn rhoi gwarant i'r landlord o gael rhent bob mis am yr eiddo - falle dim y math o rent maen nhw yn cael yn arferol, ond wedyn yr awdurdod lleol sydd yn gyfrifol am gynnal a chadw yr eiddo hefyd.

"Ond y tenant sydd yn bwysig i ni yn Shelter Cymru ac mae'r cynllun yn cael ei beilota ar hyn o bryd mewn sawl cyngor yng Nghymru."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Heddyr Gregory fod rhoi cefnogaeth i'r tenantiaid yn bwysig iawn hefyd

Ychwanegodd: "Beth ry'n ni ishe gweld yw bod y cynllun yma yn galluogi mwy o bobl i rentu yn breifat yng Nghymru a hynny am rent fforddiadwy.

"Eiddo ar les yw e, ond wrth gwrs mae'n rhoi sicrwydd tenantiaeth iddyn nhw hefyd. Achos yn aml iawn pan mae tenantiaid yn y sector rhentu preifat maen nhw ar gytundeb chwe mis neu beth bynnag.

"Mae'r ddogfen yma yn dweud y dylai'r tai yma fod ar les am rhwng pum a 20 mlynedd i bobl felly yn rhoi sicrwydd iddyn nhw i'r dyfodol gan hefyd, ac mae hyn yn bwysig, roi cefnogaeth i'r tenantiaid yma.

"Bydd y gefnogaeth yna i gael i bobl i drin arian - bydd cefnogaeth iddyn nhw o ran iechyd meddwl a iechyd corfforol hefyd, achos yn aml iawn mae'r gefnogaeth yma yn wasgaredig ac mae ishe mwy."