Dathlwn glod

  • Cyhoeddwyd

Mae aelodau seneddau Caerdydd a San Steffan wrthi'n trafod cerfluniau a chofebion yr wythnos hon.

Pa rai ddylai aros, pa rai ddylai fynd a sut mae delio a'r rheiny sy'n cymryd y penderfyniad i'w dwylo eu hunain yw'r cwestiynau allweddol wrth gwrs.

Rwy'n cymryd bod yn rhan fwyaf ohonom yn eistedd yn y canol rhywle rhwng y rheiny sy'n mynnu y dylai cofebion bob oes gael sefyll yn ddidramgwydd tan dydd y farn fawr a'r rheiny fyddai'n ein gwared o gofeb i un unrhyw berson nad oedd yn llwyr gydymffurfio a moeseg a safonau ein dyddiau ni.

Y gwir amdani wrth gwrs yw bod ein canfyddiad o hanes a'n gwerthfawrogiad o ffigyrau hanesyddol yn newid trwy'r amser a bod y broses honno'n ddiddiwedd.

Cymerwch esiampl. O fy mlaen mae llyfr a gyflwynwyd i mi wrth adael yr ysgol fach, hanner canrif a mwy yn ôl bellach.

"Cymry Enwog" yw teitl y gyfrol ac mae'n cynnwys wythdeg o fywgraffiadau o bobol oedd yn cael ei hystyried yn hoelion wyth y genedl ar y pryd. Rwy'n cymryd mai'r syniad oedd y byddai plant Bryntaf yn dilyn yn ôl traed y mawrion hyn.

Rwy'n dweud plant Bryntaf ond efallai mai dim ond y bechgyn oedd wedi ein targedi gan fod bron pob un o'r "Cymry Enwog" yn ddynion gyda dim ond un eithriad.

Gwobr i bawb wnaeth ddyfalu mai yn Nolwar Fach yr oedd yr eithriad yn byw!

Mae'r gweddill ohonyn nhw yn un o bedwar peth. Mae arwyr "Cymry Enwog" yn dywysogion, yn bregethwyr, yn feirdd neu'n ramadegwyr. Does fawr ddim lle i wyddonwyr, dynion busnes na diwydianwyr heb sôn am undebwyr llafur na gwleidyddion.

Fe fyddai unrhyw restr gyfatebol gyfoes yn wahanol iawn i un "Cymry Enwog". Yn sicr fe fyddai 'na lawer llai o ramadegwyr ar y rhestr a go brin y byddai'r rhan fwyaf o'r pregethwyr yn cael eu cynnwys!

Ond dyna'r pwynt, efallai. Bwffe nid pryd gosod yw hanes gyda phob cenhedlaeth yn dewis a dethol yr arwyr sy'n gymwys i'w hoes ei hun.

Dyw hyd yn oed cerflun ddim yn ddigon i atal treigl amser. Wedi'r cyfan, os gofynnwch i bobol Caerdydd pwy oedd John Batchelor, gŵr sydd â cherflun amlwg ar stryd siopa brysuraf y brifddinas does dim dwywaith yn fy meddwl i beth fyddai'r ateb mwyaf cyffredin.

"He's the bloke with a traffic cone on his haed."

Sic transit gloria mundi.

Pynciau cysylltiedig