Dyn wedi marw 'ar ôl cael ei frathu gan gŵn' yn Llanbed

  • Cyhoeddwyd
Map

Mae'r heddlu'n ymchwilio i farwolaeth dyn yn Llanbedr Pont Steffan yn dilyn adroddiad ei fod wedi ei frathu gan gŵn.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys iddyn nhw dderbyn galwad am 17:00 ar 10 Ionawr bod dyn wedi ei frathu.

Clywodd cwest ddydd Mercher mai John William Jones, 68, oedd y dyn fu farw ar safle'r digwyddiad.

Cafodd y cwest ei ohirio wrth i'r ymchwiliad barhau.

Mae dynes wedi cael ei harestio ar amheuaeth o fod â chi oedd yn beryglus ac allan o reolaeth, ac fe gafodd ei rhyddhau dan ymchwiliad.

Cafodd tri chi, oedd ddim ar restr y cŵn sydd wedi eu gwahardd, eu cymryd o'r safle.