Y Fari Lwyd yn America?!

  • Cyhoeddwyd
Mynd a'r Fari Lwyd am dro o gwmpas PhiladelphiaFfynhonnell y llun, Mathew Rhys
Disgrifiad o’r llun,

Mynd a'r Fari Lwyd am dro o gwmpas Philadelphia

I lawer ohonom ni, mae'r Fari Lwyd yn draddodiad go gyfarwydd.

Dydy hynny ddim mor wir pan chi'n croesi'r môr i America, ond ar Nos Galan 2021 roedd i'w gweld yn Philadelphia, Pennsylvania.

"Dathlwyd y Fari Lwyd gan griw o grwpiau lleol," meddai Mathew Rhys, sy'n awyddus i hyrwyddo treftadaeth Gymreig yr ardal. Roedd Mathew ar ei wyliau yn Philadelphia i weld teulu ond hefyd i ddysgu mwy am hanes y Cymry yn yr ardal.

"Daeth cwpl o grwpiau i ymuno â'r dathliad. Cyfeillion o Fort Mifflin ar y Delaware, caer o'r 18fed ganrif y tu allan i'r ddinas, The Griffith Morgan House sef ystâd gyda gwreiddiau Cymreig - mae ei berchennog presennol, Robert Fisher-Hughes, hefyd yn falch iawn o'i gyndeidiau Cymraeg, a The Sea Dogs, band sianti môr o New Jersey a fu'n codi'r canu."

Y Fari Lwyd yw un o draddodiadau rhyfeddaf ein hetifeddiaeth ni yng Nghymru. Yn syml, penglog ceffyl yw'r Fari Lwyd sydd yn cael ei osod ar bolyn a'i lapio mewn defnydd gwyn cyn gorymdeithio o amgylch pentrefi.

Yna mae'r criw sy'n teithio o gwmpas y pentref yn mynd o ddrws i ddrws gan ganu a herio teuluoedd i frwydr odli.

Ffynhonnell y llun, Mathew Rhys
Disgrifiad o’r llun,

The Sea Dogs yn canu

Penglog o Ebay

"Cyfres o gyd-ddigwyddiadau oedd trefnu hyn, mewn gwirionedd," eglura Mathew, sydd yn byw yng Nghaerdydd.

"Mae wastad wedi bod yn awch i mi hybu diwylliant Cymreig yn ardal Gymreig Philadelphia. Gyda'r Fari Lwyd wedi dod yn fwyfwy poblogaidd i gynulleidfaoedd rhyngwladol ar-lein, yn enwedig yn America, sylweddolais fod cyfle i wneud rhywbeth mawr tra o'n i'n ymweld â nhw.

"Roedd fy ymweliad yn cyd-fynd â'r gwyliau, ac ar ôl sgwrs â The Sea Dogs, ffeindies i allan bod Del Merritt, sy'n frwd dros lên gwerin a hanes Prydain, yn berchen ar Mari Lwyd ei hun. Fe brynodd hi e o'r we!

"Eglurais fy mwriad i Del a dywedodd e byse fe'n mynd ati'n syth i dacluso penglog y ceffyl a chael gwared â'r dwst oddi arni!"

Ffynhonnell y llun, Mathew Rhys
Disgrifiad o’r llun,

Mathew a'i ffrind gyda'r Fari Lwyd

"Credwch neu beidio ges i'r benglog o Ebay!" meddai Del.

"Roedd y benglog gyda cwpl o dyllau bwled ynddi pan gafodd hi ei rhoi lawr.

"Roedd hi'n edrych yn ddigon blêr. Roedd hi braidd yn llwm a diflas, fel yn yr hen luniau o'r Fari Lwyd, ond fe wnaethon ni wneud iddi edrych yn hyfryd a Nadoligaidd."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Mari Lwyd in Philadelphia

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Mari Lwyd in Philadelphia

Sut ddaeth y traddodiad i Philadelphia?

Eglura Del Merrit, sef capten y band sianti môr The Sea Dogs: "Rydw i a fy ngwraig Eileen yn hoff iawn o hanes, diwylliant, cerddoriaeth a llên gwerin gogledd Ewrop, yn enwedig yr ynysoedd Prydeinig.

"Dwi'n cofio darllen am y Fari Lwyd pan roeddwn i'n fach. Roedd e bob tro'n tanio fy nychymyg.

"Gofynnais i'r cwestiwn, pam ddim dathlu e yn Philadelphia?!"

Cynhaliwyd y noson ym mhentref Nadolig Philadelphia. Roedd perfformiadau gan The Sea Dog gyda'r Fari Lwyd yn cael ei thywys o gwmpas y pentref a Neuadd y Ddinas.

Sioc wrth weld penglog y ceffyl

"Wrth drefnu'r noson, roedd rhaid i ni gael caniatâd i fynd a'r Fari Lwyd am dro ar Nos Galan," dywedodd Mathew.

"Roedd e'n ddoniol, fe wnaethon ni esbonio y bydden ni'n canu caneuon gwasael (wassail) ac yn gwisgo'r Fari Lwyd, ond doedden ni ddim yn siŵr a oedden nhw'n ymwybodol beth oedd y Fari Lwyd.

"Gan roedd y trefnwyr yn Almaenwyr, roedden ni'n gobeithio eu bod nhw'n gyfarwydd â thraddodiadau gwyliau anarferol. Wedi'r cyfan, mae ganddyn nhw Krampus.

"Ond ar ddiwrnod y perfformiad, aethon ni i'r ddesg wybodaeth gyda'r Fari Lwyd ar ddechrau'r noson - a gafon nhw sioc wrth weld penglog y ceffyl. Roeddem nhw wedi'u synnu braidd. Ond doedd dim problem a gafon ni groeso mawr."

'Look! It's the Welsh thing!'

"I'r dorf oedd yna ar y noson, roedd e'n rhyfedd ac yn ddiddorol. Roedd y bobl yno yn dweud eu bod wedi clywed am y traddodiad, roedd eraill yn methu credu eu llygaid," meddai Del Meritt.

"Yn gyffredinol, roedd yr ymateb yn gadarnhaol iawn."

"Glywes i gwpl o bobl yn gwaeddi, "Look! It's the Welsh thing," dywedodd Mathew.

"Hwnna oedd fy hoff linell glywes i ar y noson.

"Aethom heibio perfformwyr stryd oedd wedi troi mewn i gerddorfa a dechreuon nhw gyfeilio i symudiadau dawns y Fari Lwyd.

"Roedd hyd yn oed y plant wedi eu swyno gyda hi a llawer yn gofyn am luniau."

Ffynhonnell y llun, Mathew Rhys
Disgrifiad o’r llun,

Y gorymdeithwyr o flaen plac cymdeithas Cymry Philadelphia

Pam dathlu'r Fari Lwyd yn America?

"Hiraeth, dwi'n credu," meddai Mathew.

"Rwyf wastad wedi bod braidd yn falch fel efengylwr diwylliannol Cymreig. Dwi'n credu bod ni gyd yn gobeithio am y diwrnod y bydd Cymru, a'n diwylliant Cymreig, yn cael cydnabyddiaeth ryngwladol, y diwrnod y cawn ein hystyried, nid fel Prydeinwyr yn unig, ond fel y bobl ryfedd, wallgof, annwyl yr ydym, yn ogystal â chael ein cydnabod yn haeddiannol am ein cyfraniadau byd-eang.

"Nid oes unman arall yn y byd yn fwy posibl i gyflawni'r ddau beth hyn nag yn Philly, y rhan fwyaf Cymreig o Daleithiau America.

"Mae gymaint o lefydd gydag enwau Cymraeg - Bala Cynwyd, Bryn Mawr, Tredyffrin, ond eto does neb yn ymwybodol yma o le mae'r enwau yma wedi dod.

Ffynhonnell y llun, Mathew Rhys

"Dwi'n credu bod cefnogi ac ymwneud â'r traddodiadau hen yma, yn yr 'America Gymreig', yn ffordd o droi'r llanw a magu diddordeb ffafriol am ein cenedl.

"Yn fwy personol i mi, mae gen i deulu yn ardal Y Tract Cymraeg, lle byddaf yn treulio llawer iawn o fy amser yn y dyfodol. A dweud y gwir, mae fy ngwahaniad i o Gymru yn eithaf torcalonnus, felly, os gallaf wneud fan hyn deimlo fel ychydig o gartref, mae hynny'n ddigon da i mi.

"Mae'r posibiliad yn ddiddiwedd a dwi'n gobeithio dim ond cynyddu neith y diddordeb."

Mae Mathew a Del yn gobeithio'n fawr gall y dathliad yn Philadelphia ddatblygu yn draddodiad blynyddol yno. Yn barod maent wedi cael ceisiadau gan gerddorion i ymuno blwyddyn nesaf.

Pynciau cysylltiedig