Cannoedd yng Nghymru yn treialu'r tabledi Covid cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Dynes yn cymryd tabledFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyma cyffur gwrthfeirol cyntaf ar gyfer Covid ac mae modd ei gymryd ar ffurf tabled

Mae'r cleifion cyntaf yng Nghymru wedi derbyn tabledi gwrthfeirol i drin Covid-19 o adref.

Dyma'r treial clinigol cyntaf o'i fath ac mae'n cael ei arwain gan Brifysgol Rhydychen.

Yng Nghymru Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a Phrifysgol Caerdydd sy'n ei weithredu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r cynllun.

Mae tua 3,000 o bobl yn y DU wedi bod yn rhan o'r cynllun ers iddo gychwyn ar 8 Rhagfyr - fe fydd oddeutu 1,500 wedi cael y tabledi gwrthfeiral.

Y gobaith yw y bydd y tabledi, ynghyd â'r rhaglen frechu, yn gostwng nifer y bobl fydd yn gorfod cael triniaeth ysbyty yn sgil y feirws.

Yng Nghymru, gall pawb dros 50 a phobl fregus (18-49 oed) gymryd rhan yn y treial os ydyn nhw wedi profi'n bositif a chael symptomau am lai na phum diwrnod.

Ffynhonnell y llun, Amy-Claire Davies
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Amy-Claire Davies y tabledi o fewn awr wedi iddi ofyn amdanynt

Mae Amy-Claire Davies, 27 o Abertawe, yn glaf sydd angen gofal lliniarol. Mae hi'n byw gydag epilepsi a phoen cronig.

Dywed bod hi a'i theulu wedi bod yn cysgodi o Chwefror 2020 tan haf 2021 tan bod y teulu cyfan wedi cael dau frechlyn.

"Cyn y brechlynnau roedd Covid yn fygythiad mawr i ni oherwydd ein cyflyrau meddygol," meddai.

Noswyl Nadolig fe gafodd ei thad brawf positif ac yn fuan wedyn fe gafodd gweddill ei theulu Covid.

"Ond fe wnaeth y tabledi fy nghyrraedd o fewn awr i fi siarad â rhywun o'r tîm rhagnodi - roedd e'n wasanaeth gwych," meddai.

Mae Amy yn credu bod y tabledi wedi gwneud gwahaniaeth.

"Petawn ni ddim wedi'u cymryd, rwy' wir yn meddwl y byddwn yn yr ysbyty - fe wnaethon nhw wahaniaeth mawr o fewn 24 awr," meddai.

Beth yw meddyginiaeth wrthfeirol?

Enw'r dabled yn yr astudiaeth hon yw molnupiravir. Cafodd ei datblygu'n wreiddiol i drin y ffliw gan gwmnïau Americanaidd Sharp and Dohme (MSD) a Ridgeback Biotherapeutics.

Dyma'r feddyginiaeth wrthfeirol gyntaf ar gyfer Covid-19 lle mae modd cymryd tabled. Tan hyn roedd rhaid derbyn y feddyginiaeth drwy chwistrelliad neu drwy'r wythïen.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y cyffur yn newid y sefyllfa'n sylweddol, medd Dr Andrew Carson-Stevens

Fe allai'r cyffur leihau effeithiau'r feirws, yn ôl y meddyg teulu a Phrif Arolygydd Tîm Astudiaeth Panoramic yng Nghymru, Dr Andrew Carson-Stevens.

"Mae'r cyffur yn cael ei amsugno gan gellau heintio Covid, ac yna'n atal y feirws rhag lluosogi," meddai.

"Mae hyn yn golygu mai ychydig o'r haint ddylai fod yn y corff, sydd yn lleihau'r peryg o salwch difrifol."

Mae disgwyl i'r cyffur fod yr un mor effeithiol yn erbyn pob amrywiolyn o'r coronafeirws.

Disgrifiad o’r llun,

Rhaid cymryd y tabledi ddwywaith y dydd o fewn pum diwrnod wedi i glaf arddangos symptomau

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, fe bwysleisiodd Yr Athro Angharad Davies - arweinydd arbenigedd haint gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru - mai "brechiadau a brechiadau atgyfnerthu ydi'r ffordd bwysica' o'ch amddiffyn eich hun a'r gymuned".

Ond mae'r driniaeth yma, meddai, yn "ffordd arall o amddiffyn pobl ar ôl iddyn nhw gael eu heintio, ac yn enwedig pobl sydd... am ryw reswm dyw system imiwnedd nhw ddim yn gallu creu ymateb da i'r frechiad".

Ychwanegodd: "Po fwyaf o bobl sy'n cymryd rhan, po gyflymaf gawn ni'r atebion am ba mor effeithiol ydi hwn."

Allai gael y tabledi?

Fel rhan o'r treial, bydd angen i'r cleifion gymryd y tabledi ddwywaith y dydd o fewn pum diwrnod o ddatblygu symptomau.

Gall unrhyw un dros 50 gymryd rhan yn y treial yng Nghymru, neu unrhyw bregus rhwng 18-49 oed ond rhaid bod wedi derbyn prawf Covid-19 positif a chael symptomau am lai na phum diwrnod.

Mae modd i'r bobl fwyaf bregus - er enghraifft, pobl â chanser neu gyflwr niwrolegol prin fel Clefyd Huntington - gael y cyffur heb fod yn rhan o'r astudiaeth.

Fe ddylai eu bwrdd iechyd fod wedi cysylltu â nhw.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae modd i bobl gymwys dderbyn y cyffur o fewn 24 awr os ydych chi'n profi'n bositif am Covid

Os ydych wedi cael prawf Covid-19 positif, fe wnewch dderbyn neges gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a fydd yn eich cyfeirio i wefan astudiaeth Panoramic.

Os ydych chi'n derbyn canlyniad positif trwy wneud prawf llif unffordd yn eich cartref, mae modd i chi gofrestru yn syth ar y wefan., dolen allanol

'Neb yn cael ei adael mas'

Fe fydd canlyniadau'r astudiaeth i'w gweld yn fuan, meddai'r Athro Kerry Hood, Cyfarwyddwr Canolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd.

"Rydyn ni'n dilyn pobl am 28 diwrnod, a dechreuodd y prawf ar 8 Rhagfyr."

Dechreuodd yr Athro Hood gynllunio ar gyfer yr astudiaeth haf diwethaf.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr Athro Kerry Hood y byddai'r canlyniadau i'w gweld yn fuan

Dywedodd ei bod yn hollbwysig sicrhau fod modd i bobl trwy Gymru gymryd rhan yn yr astudiaeth, lle bynnag y maen nhw'n byw.

Fe fydd unrhyw un sydd yn derbyn PCR positif yn derbyn neges destun am yr astudiaeth, ac os ydyn nhw'n gymwys fe fydd y cyffuriau'n cael eu cludo i'w cartref o fewn 24 awr.

"Mae'r holl beth wedi ei wneud o bell, sydd yn golygu dyw pethau heb eu canoli mewn un lle fel ysbyty, felly ni fydd unrhyw un yng Nghymru'n cael ei adael mas oherwydd problemau fel trafnidiaeth.

Ychwanegodd yr Athro Hood fod cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys treialu cyffuriau newydd pan maen nhw wedi eu cymeradwyo, cyrraedd pobl mewn cartrefi gofal, a gweld a ydy triniaeth wrthfeirol yn gallu lleihau lledaeniad y feirws.