Peidio cyflogi pobl awtistig yn 'wastraff o dalent'

  • Cyhoeddwyd
Nath Trevett
Disgrifiad o’r llun,

Nath Trevett: 'Roedd cyfweliadau yn anodd i fi'

Mae cael cyn lleied o bobl awtistig mewn gwaith yn "annerbyniol ac yn wastraff enfawr o dalent", yn ôl Cymdeithas Awtistiaeth Cymru.

Amcangyfrifir fod tua 31,000 o bobl yng Nghymru ag awtistiaeth - anabledd gydol oes sy'n gallu achosi anawsterau gyda chyfathrebu a rhyngweithio cymdeithasol.

Yn ôl ffigyrau diweddaraf undeb TUC Cymru, dim ond 16% o oedolion awtistig sydd mewn swyddi llawn amser.

Mae 77% o rheiny sydd allan o waith yn dweud y byddan nhw'n hoffi cael swydd.

Dywed Llywodraeth Cymru fod "nifer o gynlluniau peilot ar y gweill i helpu pobl [awtistig] i gael gwaith".

Ond yn ôl un un sy'n byw â'r cyflwr, mae angen gwneud mwy i helpu pobl awtistig i ddod o hyd i swyddi.

'Lot o anwybodaeth'

Dywed Nath Trevett, sy'n dod o Aberpennar ger Aberdâr, bod angen gwella dealltwriaeth o'r anabledd.

"Dwi'n sensitif at olau llachar a seiniau uwch ac ambell i elfen o gyffwrdd a does dim alla'i 'neud am hynna am mai dyna ydw i," meddai Mr Trevett, a gafodd ddiagnosis pan oedd yn 16 oed.

"Mae cwrdd â phobl newydd hefyd yn gallu rhoi straen arna'i, yn enwedig os nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg.

"Rwy' wastod yn siarad yn agored am awtistiaeth ac weithie' mae pobl yn deall ac weithie' dy'n nhw ddim.

"Mae rhai pobl cas o gwmpas, dim pawb wrth gwrs, ond mae angen addysgu pobl yn ddirfawr. Mae lot o anwybodaeth mas fanna."

Dywed bod angen gwella ymwybyddiaeth pan mae'n dod i gyflogaeth, ac i sicrhau fod cyflogwyr yn deall beth sydd angen o ran adnoddau a chefnogaeth.

Mae Mr Trevett yn dioddef o iselder ac yn ystyried ei hun yn ffodus i fod wedi cael swydd gydag elusen sy'n deall y cyflwr.

Ond "dyw pawb ddim mor lwcus", meddai, ac i berson ag awtistiaeth mae cyfweliad am swydd hyd yn oed yn gallu bod yn heriol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Nath Trevett yn credu bod angen gwella dealltwriaeth o'r anabledd

"Mewn cyfweliad swydd, efallai bydd cyflogwr ddim yn hoffi'r ffordd mae person sy' ar y sbectrwm yn ymateb i gwestiwn pan bod nhw yn rhoi manylion," eglurodd.

"Oherwydd bod nifer o gyflogwyr sy'n cyfweld ddim wastod yn deall y syndrom a dim lot o brofiad, mae pobl ag awtistiaeth yn straffaglu mewn cyfweliad, a'n cael problem.

"Mae hynna'n g'neud fi'n grac. Roedd cyfweliadau yn anodd i fi.

"Rwy'n lwcus i fod wedi cael fy nerbyn gan elusen sy'n deall y syndrom. Ond os cymharwch chi hynny â chwmnïau erill sy' ddim yn deall awtistiaeth ac Aspergers, ma' hynna'n gallu gwneud pethe'n anodd eithriadol."

'Gwastraff enfawr o dalent'

Dywedodd Chris Haines, o Gymdeithas Awtistiaeth Cymru: "Mae data'r ONS yn awgrymu mai dim ond tua chwarter y bobl awtistig sydd mewn unrhyw fath o waith cyflogedig.

"Mae hyn yn annerbyniol ac yn wastraff enfawr o dalent.

"Er na all pob person awtistig weithio, rydyn ni'n gwybod bod y rhan fwyaf o bobl eisiau gwneud hynny - felly mae'n bwysig bod cyflogwyr yn cael gwared ar rwystrau.

"Trwy feithrin gweithleoedd mwy cynhwysol, gall cyflogwyr hefyd chwarae rhan allweddol mewn cynyddu derbyniad o awtistiaeth yn y gymdeithas ehangach."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth yn tanlinellu pwysigrwydd sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud i helpu pobl awtistig i gael mynediad at wasanaethau a gwaith.

"Rydyn ni'n parhau i ddefnyddio ein rhwydwaith o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl i greu newid diwylliant o ran agweddau er mwyn helpu pobl awtistig yn y gweithle ac mae gennym nifer o gynlluniau peilot ar y gweill i helpu pobl i gael gwaith."

Pynciau cysylltiedig