Teithio i Loegr am driniaeth calon plant yn 'hunllefus'

  • Cyhoeddwyd
Emyr ac Elin yn dal AnestFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Aeth tair wythnos heibio heb i Elin ac Emyr allu dal eu merch fach tra'r oedd hi ar beiriant cynnal bywyd

Mae mam o Geredigion a deithiodd i Loegr am lawdriniaeth frys ar y galon i'w merch fach yn galw am symud y llawdriniaethau i Gymru.

Dywedodd wrth Cymru Fyw fod gorfod gadael eu gwlad yn brofiad "hunllefus".

Ers bron i 25 mlynedd, does dim modd i blant dan 16 gael llawdriniaeth ar y galon yng Nghymru - ers hynny, mae'n rhaid teithio i ysbytai yn Lloegr.

Yn ôl un arbenigwr, mae triniaethau cymhleth ar galonnau plant yn gofyn am lefelau uwch o arbenigedd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod triniaethau'n cael eu cynnal mewn unedau mwy o faint yn Lloegr sydd ag arbenigedd i drin cyflyrau cymhleth.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Treuliodd Anest bron i saith mis cyntaf ei bywyd mewn ysbyty

Ddydd Nadolig 2019, fe gafodd merch Elin ac Emyr o Dalsarn, Ceredigion, ei chludo mewn ambiwlans awyr o Aberystwyth i ysbyty Arch Noa, Caerdydd yn fabi bach tair wythnos oed.

Dywedodd y meddygon wrth Elin ac Emyr bod calon Anest yn "methu" wedi iddi gael eu geni â thyllau yn ei chalon.

Wedi cyfnod anodd yng Nghaerdydd, bu'n rhaid i'r teulu wynebu "trawma" o newid ysbytai a theithio i Fryste am lawdriniaeth frys i Anest.

"[Roedd e'n] hunllef," meddai Elin.

"Roedd Caerdydd i ni yng nghefen gwlad Ceredigion yn teimlo fel pen draw'r byd - o'n i byth yn mynd i Gaerdydd.

"Ond oedd gorfod gwneud y cam pella 'na eto a theithio i Fryste, i wlad arall mewn ffordd, o'dd e yn straen."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Elin wedi cadw cofnod o adeg Anest yn ysbytai Bryste a Chaerdydd

Fe fu Anest a'i rhieni ym Mryste am dair noson ar gyfer y llawdriniaeth, cyn iddi gael ei throsglwyddo yn ôl eto i Gaerdydd.

"O'n i wedi cyfarwyddo gyda Chaerdydd, yr ysbyty, staff yr ysbyty, ac o'dd y broses yn digwydd ac yn newydd unwaith 'to, cyfarwyddo â 'sbyty hollol newydd - jyst y pethe sy'n rhoi pwysau arnoch chi mewn ffordd, mewn sefyllfa sy'n ddigon heriol ta beth.

"Mae'n mynd i wynebu llawdriniaeth rhywbryd eto yn y dyfodol. Dyw'r doctoriaid ddim yn gallu gweud 'to pryd.

"Mi fydd yr iaith yn her i Anest i ddeall, cyfathrebu, ac i unrhyw blentyn bach mewn ysbyty mae'n brofiad digon ofnus ta beth heb y ffaith bo chi ddim yn deall yr hyn sy'n digwydd o'ch amgylch chi," ychwanegodd Elin.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu a ffrindiau Anest wedi bod yn codi arian ar gyfer cyfleusterau i uned Arch Noa, Caerdydd

Y llynedd, fe gafodd bron i 200 o blant dan 16 o Gymru driniaeth ar y galon ym Mryste, ac fe wnaeth degau'n rhagor deithio i ysbytai yn Lerpwl, Manceinion, Birmingham a Llundain.

Wrth wynebu'r posibilrwydd y bydd angen triniaeth bellach ar Anest yn y blynyddoedd nesaf, mae Elin yn galw am gynnal triniaethau cardioleg i blant yng Nghymru.

'Pwysicach i blant gael triniaeth yn eu gwlad eu hunain?'

"I gyd, mi fuon ni saith mis yng Nghaerdydd rhwng popeth.

"Yn y cyfnod 'na, fe ddes i i adnabod yr ysbyty a'r staff yn dda iawn, a ma' 'na dîm arbennig o gardiolegwyr pediatrig yng Nghaerdydd, hanner dwsin ohonyn nhw, felly pam ddim ychwanegu llawfeddyg i fewn i'r tîm?

"Mae 'na alw enfawr am y gwasanaeth yma yng Nghymru, ac os yw oedolion yn medru cael y driniaeth yng Nghymru, pam nad yw plant?

"Onid yw e'n bwysicach bod plant yn cael triniaethau yn eu gwlad eu hunain heb orfod teithio dros Glawdd Offa i wneud hynny?"

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl meddyg teulu sy'n arbenigo ym maes cardioleg mae triniaethau calon i blant yn aml yn fwy cymhleth

Yn ôl un arbenigwr, mae llawdriniaethau ar galon plentyn yn fwy cymhleth na rhai tebyg ar oedolion - a does dim digon o angen yma am uned arbenigol.

Dywedodd Dr Graham Thomas, meddyg teulu sy'n arbenigo ym maes cardioleg: "Mae plant sydd ag anawsterau dwys ar y galon angen bod o dan be 'dan ni'n galw'n tertiary centres reit arbenigol.

"Yng Nghymru, does na'm cweit digon o boblogaeth i gyfiawnhau hynny ac o ran ein daearyddiaeth hefyd, yn y gogledd, ry'n ni'n dueddol o ddefnyddio ein harbenigedd ym Manceinion a Lerpwl ac yn y de, Bryste."

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dweud bod plant yn cael eu trin mewn canolfannau mwy o faint lle mae "lefelau uwch o arbenigedd wrth ddelio â chyflyrau cymhleth".

"Dim ond 11 o ganolfannau sydd yn Lloegr ac maent fel arfer yn darparu gwasanaethau ar gyfer ardal fawr sy'n sicrhau'r canlyniadau gorau i gleifion."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Elain lawdriniaeth "wyrthiol" ym Mryste bron i saith mlynedd yn ôl

Un sy'n deall y straen o orfod teithio dros y ffin cystal ag unrhyw un yw Bridget a'i merch 11 oed, Elain o Lanilar.

Mae Elain yn byw â chyflwr prin ar y galon ac wedi derbyn sawl triniaeth ym Mryste dros y blynyddoedd.

Mae Bridget yn galw am gefnogaeth ar ran rhwydwaith o deuluoedd sy'n rhannu'r un siwrnai.

Ffynhonnell y llun, Elain a Bridget
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Elain ei geni â chyflwr prin ar ei chalon - cyflwr nad oes gwella iddo

"Ni wedi cael sawl adeg a chyfnod anodd lle ni wedi gorfod teithio'n bell a bod i ffwrdd oddi cartref am fisoedd, mae e wedi bod yn sialens dros y blynyddoedd."

Yn ôl Bridget, mae'n hapus i'w merch deithio i Fryste gan fod arbenigwyr yno sy'n "deall ei chyflwr" prin.

'Bwlch yn y gefnogaeth'

Ond ar ôl 12 mlynedd, mae'n dweud ei fod yn "siomedig" nad oes unrhyw beth wedi newid.

"Dwi'n teimlo'n hapus bod Elain yn mynd at y llawfeddyg a'r tîm sydd efo'r arbenigedd sydd gyda nhw ym Mryste.

"Dwi jyst yn meddwl falle dyle'r llywodraeth gefnogi teuluoedd mwy - ariannu'r siwrne, amser o'r gwaith a'r straen mae e'n rhoi ar deuluoedd o bob ochr.

"Ma 'na gap i gael yn y gefnogaeth o'r ochr yna."

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "trefniadau ar waith i helpu pobl ar incwm isel gyda chostau teithio os bydd angen triniaeth arbenigol y tu allan i Gymru".