Nextbike yn dychwelyd i Gaerdydd wedi 'siom' fandaliaeth

  • Cyhoeddwyd
nextbike
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth y beiciau i Gaerdydd ym mis Mai 2018

Mae cynllun rhentu beics wedi dychwelyd i'r brifddinas ar ôl cael ei atal am ddeufis yn sgil "fandaliaeth ddigynsail".

Fe wnaeth Nextbike ailgychwyn y cynllun ddiwedd yr wythnos gan gyflwyno 400 beic i Gaerdydd a'r Fro.

Dywed un ddynes o ardal Y Sblot a arferai ddefnyddio'r beiciau sawl gwaith yr wythnos ei bod yn obeithiol am lwyddiant y cynllun y tro hwn.

Cafodd y cynllun ei atal ym mis Tachwedd oherwydd "lefelau fandaliaeth gwaeth nag unman arall yn y DU", yn ôl pennaeth y cwmni.

Ar y pryd, dywedodd Nextbike na fydden nhw'n dychwelyd i Gaerdydd oni bai fod y lefelau hyn yn gostwng.

Fe wnaeth y cwmni gyflogi ymchwilwyr preifat ar ôl i dros hanner y beiciau gael eu dwyn neu eu dinistrio.

'Llawer o botensial'

Sarah Scire gyda beic NextbikeFfynhonnell y llun, Sarah Scire
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sarah Scire yn "rhwystredig iawn" pan gafodd y cynllun ei atal

Arferai Sarah Scire, 34, rentu beiciau Nextbike ar gyfer pob math o bethau: "Ar gyfer mynd i gyfarfodydd, cwrdd â ffrindiau, a mynd i'r dre."

"Er enghraifft, heddiw dw i wedi gorfod mynd draw i'r Rhath - fel arfer, mi fuaswn i'n defnyddio Nextbike ar gyfer hyn, ond dw i wedi gyrru heddiw."

Roedd hi'n defnyddio'r beiciau am resymau amgylcheddol ac i arbed arian.

Dywed ei bod hi'n "rhwystredig iawn" pan gafodd y beiciau eu cymryd o'r ddinas.

Nextbikes
Disgrifiad o’r llun,

Rhybuddiodd Nextbike y llynedd y gallai'r cynllun ddod i ben yn barhaol os nad oedd y sefyllfa'n gwella

"Mae ganddo'r potensial i fod yn wasanaeth mor wych, ond mae'n gymaint o siom mae'n cael ei gam-drin."

Dywed Ms Scire y bydd hi'n sicr yn defnyddio'r beiciau gymaint ag yn y gorffennol - ar yr amod fod "digon o feicio a maen nhw'n gweithio... dyna'r sialens".

"Oherwydd y diffyg beiciau oedd yn gweithio tua'r diwedd, roedd y gwasanaeth yn mynd yn annibynadwy iawn," ychwanegodd.

Dywed ei bod hi'n dymuno bod yn bositif am lwyddiant y cynllun, gan ychwanegu fod lefelau fandaliaeth "tu hwnt i reolaeth Nextbike".

'Llenwi bwlch pwysig'

Louis MertensFfynhonnell y llun, Louis Mertens
Disgrifiad o’r llun,

Gall y cynllun fod yn fwy llwyddiannus y tro hwn "os yw'r ewyllys yno," medd Louis Mertens

Un arall a ddefnyddiodd y beiciau'n aml oedd Louis Mertens, 23, sydd yn byw yn ardal Y Rhath.

"Roedd e'n gwneud fy siwrne yn haws, doedd dim angen gorfeddwl y peth a phoeni a fyddai fy meic yn cael ei ddwyn."

Roedd ffawd y cynllun y tro diwethaf yn "siom go iawn", meddai, gan iddo "lenwi bwlch pwysig" yn y ddinas.

"Ti'n gweld nhw wrth fynd o gwmpas Caerdydd, wedi eu taflu i un ochr neu wedi eu torri'n ddarnau, neu yn eu defnyddio fel beic eu hunain.

"Ond dw i'n meddwl bod lladrata beiciau a fandaliaeth yn broblemau ym mhob dinas," ychwanegodd.

Nextbike
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cynllun ei atal ym mis Tachwedd wedi achosion niferus o fandaliaeth

"Mae'n siom nad oes dewisiadau amgen i Nextbike ar hyn o bryd - mewn dinasoedd fel Llundain, Utrecht, Amsterdam, Copenhagen, mae pob math o gynlluniau rhentu sy'n ateb anghenion gwahanol, yng Nghaerdydd, dim ond Nextbike oedd gennyn ni, felly oedd hi'n golled eitha' mawr i bobl."

Dywed ei fod wrth ei fodd yn gweld y cynllun yn dychwelyd, a'i fod "methu aros i fynd nôl ar y beiciau".

"Mae'n anodd i ddweud" a fydd y fandaliaeth yn gwella y tro hyn, meddai.

Fodd bynnag, dywedodd ei fod yn ymddangos fel pe tai "lot o bobl sydd eisiau mynd i'r afael â'r sefyllfa o ddifri - mae'n edrych yn addawol os yw'r ewyllys yno".

Beth fydd yn wahanol y tro hyn?

Nextbike
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd dros hanner y beics eu dwyn neu eu dinistrio

Dywed Nextbike eu bod am fynd i'r afael â lefelau fandaliaeth trwy bartneriaeth newydd i leihau troseddau beicio Caerdydd.

Mae dros 20 sefydliad, gan gynnwys Heddlu De Cymru, yn rhan o'r bartneriaeth.

Bydd y cwmni hefyd yn "meithrin ymwybyddiaeth" pobl ifanc Caerdydd o werth y beiciau i'r gymuned trwy weithio gyda Gwasanaethau Ieuenctid Cyngor Caerdydd.

Mae gan y beiciau "haen newydd o ddiogelwch", ychwanegodd Nextbike.

Ond fe rybuddion nhw nad oes ots pa mor dda yw clo'r beic os nad yw'n cael ei ddefnyddio'n iawn.

"Helpwch i gadw'r beiciau'n ddiogel trwy eu dychwelyd i orsafoedd swyddogol a sicrhau bod y cloeon wedi'u cau'n gyfan gwbl, a hynny bob tro," medd y cwmni.

Mae ffioedd uwch ar gyfer peidio â dychwelyd y beiciau i'w gorsafoedd cywir - rhaid talu rhwng £20 a £60.

Pynciau cysylltiedig