Gweilch Llyn Brenig: Creu nythod wedi achos fandaliaeth
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr Prosiect Gweilch y Pysgod Llyn Brenig yn gobeithio creu nyth newydd ddydd Llun ar safle platfform a gafodd ei ddinistrio gan rywrai gyda llif gadwyn.
Maen nhw hefyd wedi clirio ail blatfform er mwyn rhoi "dewis" i bâr o weilch sydd "yn dal o gwmpas" yr ardal ar y ffin rhwng siroedd Conwy a Dinbych.
Roedd yr adar, sy'n cael eu gwarchod gan ddeddf gwlad, newydd ddodwy wy yn y nyth gwreiddiol noson cyn yr hyn sydd wedi ei ddisgrifio fel achos o "fandaliaeth arswydus".
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywed trefnwyr y prosiect, sy'n bartneriaeth rhwng Dŵr Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, bod yna "obaith y cawn ni dymor paru yma" eto eleni.
Cyngor arbenigol
Cafodd yr ail blatfform ei glirio ddydd Sadwrn "yn y gobaith y byddai'r adar yn ei ddewis fel cartref" gyda'r nod o "sicrhau bod rhywbeth ar gael iddyn nhw, gan achosi cyn lleied o aflonyddwch â phosib".
Ond ar sail derbyn cyngor arbenigol o sawl cyfeiriad, mae swyddogion wedi penderfynu gosod nyth newydd ac addasu platfform y lleoliad gwreiddiol.
"Y nod yw rhoi dewis i ddau safle nythu i'r adar, gan gynnwys rhywbeth mor debyg â phosib i'r un gwreiddiol," medd y datganiad nos Sul.
"Mae staff yr Ymddiriedolaeth Natur wedi treulio prynhawn 'ma'n creu nyth hollol newydd ac, os aiff popeth yn ôl y bwriad, bydd Dŵr Cymru'n ei osod bore [Llun].
"Unwaith y daw'n amlwg pa nyth, os unrhyw nyth, y mae'r adar yn ei ddewis fe wnawn ni gadarnhau pa fesurau diogelwch gellir eu gosod i'w gwarchod.
"Ni allwn bwysleisio digon pa mor anarferol oedd ymosodiad nos Wener ar y nyth - dyw mwyafrif safleoedd nythu'r DU ddim yn cael eu monitro ddydd a nos oherwydd, (diolch i'r drefn) does fawr angen gwneud, yn enwedig yn y blynyddoedd diweddar."
Penderfyniadau 'anodd'
Dywed trefnwyr y prosiect bod staff "dan bwysau enfawr" wrth geisio gwneud penderfyniadau sy'n rhai anodd gan mai prin yw "consensws llwyr ynghylch y ffordd orau ymlaen".
Mae'r penderfyniadau hynny'n cael eu gwneud "ar sail y wyddoniaeth a thystiolaeth orau sydd ar gael" ac mae swyddogion yn erfyn ar bobl "i fod yn garedig... mewn adeg anodd, hyd yn oed os rydych yn anghytuno".
Ychwanega'r datganiad mai lles y gweilch yw'r brif flaenoriaeth, gan apelio eto ar bobl all helpu'r ymchwiliad i'r difrod gysylltu â'r heddlu.
Mae'r trefnwyr hefyd yn "ymwybodol" o farn rhai bod cyhoeddi gwybodaeth am yr adar yn "annoeth neu hyd yn oed yn anghyfrifol".
Ond maen nhw'n "credu'n gadarn bod risgiau gwneud hynny'n llai na'r buddion, ac y byddai'r rheiny sy'n benderfynol o achosi niwed i'r adar yn darganfod yr holl wybodaeth berthnasol hyd yn oed os nad yw'n gyhoeddus".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mai 2021
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2020