Bachgen, 13, yn arwr wrth i'w fam lewygu wrth y llyw
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 13 oed o Geredigion wedi dweud sut lwyddodd i lywio car ei fam i lain galed yr M4 wedi iddi hi lewygu tra'n gyrru ger Abertawe.
Roedd Hari, 13, a'i ffrind Dylan, 12, ar eu ffordd adref o sesiwn hyfforddiant yn Academi Bêl-Droed Dinas Abertawe bythefnos yn ôl, pan wnaeth mam Hari lewygu wrth y llyw ger Cyffordd 47.
Fe wnaeth Hari, oedd yn eistedd ym mlaen y car, gydio yn yr olwyn, newid gêr y car, a'i llywio'r car i ddiogelwch.
"O'n i'n dod 'nôl o training, ac o'dd fi a Dylan ar y ffôn a nath mam jyst passo mas," meddai Hari o'r Ferwig ger Aberteifi.
'Gyrru tua milltir'
"O'dd y car wedi dechrau mynd i'r dde. Nes i grabbo'r steering wheel a tynnu fe 'nôl i'r chwith ac wedyn rhoi e ar yr hard shoulder.
"'O'dd Dylan wedi dweud wrtho fi roi'r goleuadau rhybudd ymlaen a tynnu'r brêc llaw.
"Eithon ni mas o'r car ac o'n i wedi treial cal help, ac o'dd Dylan wedi ffono dad fi.
"Galle fe wedi bod yn ddamwain oherwydd roedden ni ar slipffordd yn arwain at gyffordd gwahanol."
Llwyddodd Hari i gael sylw gyrrwr ar yr M4 ac fe wnaeth Dylan, o Aberporth, alw ei dad am gymorth.
Cafodd mam Hari ei chludo i Ysbyty Treforys.
Pan ofynnwyd iddo sut y llwyddodd i yrru car ei fam, dywedodd Hari: "Sai'n gwbod, o'n i'n meddwl am fy wncwl ar y fferm o'r blaen."
Mae'r daith rhwng y gorllewin ac Abertawe yn un gyfarwydd i'r Hari a Dylan gyda'r ddau yn teithio i academi Abertawe hyd at bum gwaith yr wythnos.
Fe wnaeth Dylan weiddi cyfarwyddiadau i Hari o'r sedd gefn.
"'Naeth Hai ddal yr olwyn yn gyflym iawn i fod yn deg iddo fe," meddai Dylan.
"O'n i'n shocked ond bach yn prowd a hapus pan oedd e drosodd.
"Mae pawb yn yr ysgol wedi bod yn gofyn i ni beth ddigwyddodd."
'Ysgol falch iawn'
Mae'r ddau yn ddisgyblion yn Ysgol y Preseli yng Nghrymych.
Dywedodd y pennaeth dros-dro, Carwen Morgan-Davies, fod yr ysgol yn falch iawn o'r bechgyn.
"Ni'n browd iawn fel ysgol o ymateb cyfrifol Hari a Dylan bythefnos yn ôl ar yr M4.
"'Naethon nhw ymateb yn slic i sefyllfa heriol iawn, a 'naethon nhw gymryd cyfrifoldeb personol.