Gyrrwr â dim cof o wrthdrawiad angheuol ar yr A55
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed ei bod yn bosib fod gyrrwr â diabetes wnaeth daro cerbyd arall a lladd dyn tra'n gyrru'r ffordd anghywir ar hyd yr A55 â lefelau siwgr gwaed isel ar y pryd.
Fe wnaeth John Williams yrru pedair milltir i wyneb traffig cyn taro cerbyd Paul Jones rhwng Llanfairfechan a Thalybont.
Dywedodd Mr Williams wrth y cwest i farwolaeth Mr Jones, 40, nad oes ganddo unrhyw gof o'r digwyddiad yn Chwefror 2018.
Yn y cwest yng Nghaernarfon fe wnaeth teulu Mr Jones ei ddisgrifio fel tad sengl clyfar ac uchelgeisiol.
'Digwyddiad hypoglycemig'
Yn rhoi tystiolaeth dywedodd Mr Williams, o Lanfairpwll, ei fod wedi cael diagnosis o ddiabetes yn 1992, a'i fod wastad wedi gwneud ei orau i reoli'r cyflwr.
Dywedodd fod meddyg wedi dweud wrtho yn dilyn y digwyddiad fod ganddo risg uchel o ddioddef "digwyddiad hypoglycemig" heb rybudd, am ei fod wedi cael diabetes ers cyfnod hir.
Ychwanegodd ei fod yn teimlo'n rhwystredig nad oes ganddo gof o'r digwyddiad a arweiniodd at farwolaeth Mr Williams.
Ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, dywedodd y bargyfreithiwr Sarah Sutherland fod hanes meddygol Mr Williams yn awgrymu y gallai ddioddef o ddigwyddiadau hypoglycemig gyda'r nos.
Eglurodd Mr Williams ei fod wastad yn cario pethau melys er mwyn atal digwyddiadau ar fath, ac na fyddai'n gyrru pe bai'n teimlo'n wael.
Dywedodd ymchwilydd gwrthdrawiadau Heddlu Gogledd Cymru, William Gordon Saynor fod gan y ddau gerbyd "ddifrod sylweddol i'w blaenau" yn dilyn y gwrthdrawiad ar ran o'r A55 oedd ddim wedi'i oleuo.
Ychwanegodd Dr Jonathan Bodansky, ymgynghorydd sy'n arbenigo mewn diabetes, y gallai nifer o ffactorau fod wedi arwain at ddigwyddiad hypoglycemig Mr Williams - fel ymarfer corff, bwyd neu ddiffyg rheoli'r cyflwr - ond nad yw'n bosib rhoi ateb pendant ar pam y digwyddodd y noson honno.
Wrth gofnodi casgliad naratif, dywedodd y crwner nad oedd modd darganfod achos digwyddiad hypoglycemig Mr Williams.
Ychwanegodd bod Mr Jones wedi marw o anafiadau difrifol na fyddai modd eu goroesi.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2018