'Angen cwblhau llwybr ar ffordd beryglus ger Aberaeron'

  • Cyhoeddwyd
ffos y ffin
Disgrifiad o’r llun,

"Ni wedi bod yn ffodus iawn nad oes plant wedi cael damwain," medd un cynghorydd

Mae cynghorwyr yn Nyffryn Aeron yn galw ar Gyngor Sir Ceredigion i gwblhau llwybr sydd heb ei orffen ar "ffordd beryglus" er mwyn cysylltu dwy gymuned.

Fe ddechreuodd yr ymgyrch i godi palmant i gysylltu Ffos-y-ffin gydag Aberaeron 'nôl yn 2018, gyda chymal un a chymal dau y prosiect wedi eu cwblhau.

Ond mae'r gwaith ar y cymal olaf, rhwng Aberaeron a'r pafin ger stad Rhiwgoch, eto i'w gwblhau.

Dywedodd Cyngor Ceredigion wrth Newyddion S4C eu bod nhw wedi ymrwymo ac wrthi'n datblygu cynllun ar gyfer y llwybr.

'Amser bwrw 'mlaen'

Ers cael ei ethol yn gynghorydd ar ward Ciliau Aeron yn 2017, mae Marc Davies wedi bod yn gweithio i godi llwybr rhwng Aberaeron a Ffos-y-ffin.

Fe lwyddodd gyda'i ymgais, gyda chymal un a dau y prosiect yn cael eu cwblhau erbyn 2020.

Ond yn ôl Cynghorydd Davies, mae'r oedi wrth gwblhau'r rhan olaf a'r diffyg atebion gan y cyngor sir yn "rhwystredig".

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Marc Davies yn rhwystredig gyda'r diffyg atebion gan y cyngor sir

"Fe gath y ddau phase cynta' eu gwneud, ac o'dd e'n llwyddiannus iawn. Ga'th y gwaith ei 'neud a o'dd dim problem o gwbl.

"Mae'r palmant yma, mae goleuadau, mae road traffic calming measures wedi cael eu rhoi mewn ac mae e wedi bod yn llwyddiant dros ben."

"Wedyn, da'th y pandemig, ac fe fwriodd hwnnw pethau go chwith yn naturiol. Ond nawr mae rhaid i ni fwrw 'mlan gyda phethau.

"Ni dwy flynedd mewn i'r pandemig yma ac yn naturiol fe gafodd lot o swyddogion eu secondo mewn i swyddi eraill yn yr awdurdod.

"Ond fel dwi'n dweud, mae'n amser bwrw 'mlan nawr. Ni wedi holi swyddogion a ydyn nhw wedi rhoi mewn am grantiau, ydyn nhw wedi rhoi consent letters i berchnogion y ddaear, neu pryd mae'r gwaith yn mynd i ddechrau.

"S'dim ymateb wedi bod i fod yn onest."

Sicrhau diogelwch

Mae'r ffordd gefn rhwng Ffos-y-ffin ac Aberaeron yn gallu bod yn brysur, gyda nifer o yrwyr yn defnyddio'r llwybr fel ffordd i osgoi prif stryd Aberaeron wrth fwrw tuag at Aberystwyth neu Llanbedr Pont Steffan.

Ers agor y llwybr, mae mwy o bobl yn hapus i gerdded ar hyd y ffordd, ond yn ôl cynghorwyr a thrigolion lleol mae angen cwblhau'r rhan olaf er mwyn sicrhau llwybr diogel.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Elizabeth Evans yn synnu nad oes damwain wedi bod ar ran o'r ffordd

Y Cynghorydd Elizabeth Evans sy'n cynrychioli ward Aberaeron ar ben arall y llwybr, ac mae hithau hefyd am weld prosiect y llwybr yn cyrraedd pen ei thaith.

"Ma' safon y pafin, ma' goleuni gyda nhw am y tro cyntaf, mae e wedi cael defnydd mawr. Ond ni mo'yn cwblhau lawr y rhiw, yn enwedig ar y gornel sydd yn Aberaeron.

"Fi'n synnu i ddweud y gwir nad oes unrhyw un wedi cael damwain ar y gornel lawr fanna. Ma' lot o geir wedi mynd mewn i'r clawdd. Ond ni wedi bod yn ffodus iawn nad oes plant wedi cael damwain."

Un sy'n defnyddio'r llwybr gyda'i deulu yw Dewi Morgans.

"Mae plant bach yn saff yn cerdded ar y pafin a phobol gydag anabledd a hen bobl hefyd yn gallu cerdded lawr i'r dre'.

"Cyn i'r pafin cael ei 'neud roedd cerbydau yn croesi fan hyn o'r coastroad a o'dd e'n beryglus iawn."

Fe ddywedodd Cyngor Sir Ceredigion eu bod nhw wedi ymrwymo ac wrthi'n datblygu cynllun ar gyfer y llwybr ac yn gweithio gyda rhanddeiliaid a thirfeddianwyr ar hyd y llwybr.

"Mae cynlluniau o'r fath fel arfer yn dibynnu ar dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru yn ogystal â chyfraniadau ariannol gan randdeiliaid eraill yn rhan o'r broses cyllid grant.

"Dim ond unwaith y bydd y Cyngor yn gallu dangos bod digon o dir wedi'i gaffael i adeiladu cynllun y bydd cais am gyllid yn cael ei ystyried."

Fe gadarnhaodd y Cyngor nad oedden nhw wedi prynu unrhyw dir ar gyfer y cynllun, ac er bod rhai dogfennau ymroddiad wedi cael eu dychwelyd, mae angen sicrhau ymroddiad ar gyfer hyd cyfan y cynllun.

Pan ofynnwyd sawl ymateb cadarnhaol roedd y Cyngor wedi ei dderbyn i'r dogfennu yma, doedd swyddogion ddim yn gallu cael gafael ar y wybodaeth.

Pynciau cysylltiedig