Galw am welliannau brys i ddiogelwch rhan o ffordd yr A487

  • Cyhoeddwyd
A487 diogelwch
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae archwiliad o'r safle wedi bod yn dilyn y gwrthdrawiad a laddodd Ellie Bryan

Mae galwadau o'r newydd ar Lywodraeth Cymru i wella diogelwch ar ran o un o brif ffyrdd y gorllewin.

Mae dau wrthdrawiad angheuol wedi digwydd ar ran o ffordd yr A487 i'r gogledd o Aberystwyth yn ystod y saith mis diwethaf.

Bu farw Ellie Bryan, 18 oed, ac fe gafodd sawl un arall eu hanafu'n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad rhwng sawl cerbyd rhwng Waunfawr a Chomins Coch ar 16 Tachwedd.

Ym mis Ebrill 2019 bu farw'r cynghorydd lleol, Paul James, ar ôl cael ei daro gan ddau gar wrth ymarfer ar ei feic ar yr un rhan o'r ffordd.

Yn ôl yr aelod Cynulliad lleol, Elin Jones, mae angen gwirioneddol am wella'r diogelwch yno, ac mae'n dweud nad yw'r galwadau hyd yma wedi cael eu hateb gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y llywodraeth bod archwiliad o'r safle wedi bod yn dilyn y gwrthdrawiad a laddodd Ms Bryan.

Dywedodd y cynghorydd sy'n cynrychioli'r ardal ar Gyngor Ceredigion, John Roberts: "Ni wedi bod yn siarad am y darn yma o'r rhiw ers dros 10 mlynedd.

"Gethon ni gwmni o Fryste yn dod yma i checio'r rhiw, ac fe ddwedon nhw fod dim o'i le.

"Ond mae rhywbeth yn wrong am y ffordd achos mae sawl un wedi cael eu lladd ar y rhiw yma."

Mae Mr Roberts yn galw am gyfarfod o'r newydd ar y safle gyda'r swyddogion o'r Cynulliad, ac i gynllun i wella'r ffordd gael ei roi mewn lle.

"Ers 40 o flynyddoedd rydyn ni wedi bod yn galw am gylchfan yn nhroad Comins Coch, ond er bod cynlluniau wedi cael eu creu does dim byd wedi dechrau yma, ac mae pobl yn dal i aros."

Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl gwrthdrawiad wedi digwydd ar y rhan hon o brif ffordd yr A487 i'r gogledd o Aberystwyth

Dywedodd Ms Jones, yr Aelod Cynulliad dros Geredigion: "Mae'n drist ofnadwy bod damwain angheuol arall wedi bod ar y rhan beryglus hon o ffordd yr A487.

"Mae nifer y damweiniau ar y rhan hon o'r ffordd dros y blynyddoedd diwethaf yn uchel, ac eto dydyn ni ddim wedi gweld y gwelliannau sydd eu hangen yn ddirfawr yn cael eu cyflwyno.

"Yn dilyn pob damwain mae 'na alwadau gen i, cynghorwyr lleol, ASau, trigolion lleol a theuluoedd sydd yn cael eu llorio gan ddamweiniau yma am welliannau ar frys.

"Ni all Llywodraeth Cymru ganiatáu i ddamwain arall ddigwydd.

"Rydyn ni wedi cael cyfarfodydd ac adroddiadau, ond mae'n rhaid i'r Llywodraeth weithredu a gweithio tuag at wella diogelwch ar y rhan hon o'r ffordd."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwest i farwolaeth Ellie Bryan, 18, o Aberystwyth wedi cael ei agor a'i ohirio

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae diogelwch ar y ffyrdd yn bwnc pwysig ac yn un rydyn ni'n ei gymryd o ddifrif.

"Rydyn ni'n parhau i weithio gyda phartneriaid i wneud gwelliannau i ddiogelwch ffyrdd ar draws Cymru.

"Mae Asiantaeth Traffyrdd a Chefnffyrdd y Gogledd a'r Canolbarth wedi cynnal archwiliad o'r safle yn dilyn y ddamwain hon."