Swyddogion iechyd yn cadarnhau achos o'r diciâu mewn ysgol

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Gyfun Coed-duonFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r achos unigol yun gysylltiedig gydag Ysgol Gyfun Coed-duon

Mae swyddogion iechyd wedi cadarnhau achos o'r diciâu (TB) mewn ysgol yn sir Caerffili.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymchwilio i un achos o'r diciâu mewn unigolyn yn gysylltiedig ag Ysgol Gyfun Coed-duon.

Ond er nad oes awgrym fod yr unigolyn wedi dal TB yn yr ysgol, bydd yr holl ddisgyblion ac athrawon a gafodd gysylltiad â'r unigolyn yn cael cynnig sgrinio.

Yn ôl swyddogion deallir fod y person wedi mynychu tra wedi'u heintio, ond yn ddiarwybod.

Mae'r clefyd yn effeithio ar yr ysgyfaint yn bennaf, ond gall hefyd effeithio ar y system nerfau a rhannau eraill o'r corff.

Dywedodd Lika Nehaul, Ymgynghorydd Meddygol Locwm mewn Diogelu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a chadeirydd y tîm rheoli digwyddiad aml asiantaeth, fod meddygon lleol wedi'i hysbysu.

"Yn dilyn gweithdrefnau rheoli haint sefydledig, rydym wedi nodi unigolion a allai fod wedi dod i gysylltiad â'r unigolyn dan sylw, cysylltwyd â'r unigolion hyn a chynnig sgrinio ar gyfer TB iddynt y gellir ei drin yn hawdd gyda chwrs o wrthfiotigau," ychwanegodd.

"Mae hon y broses arferol, ac os caiff heintiau TB positif eraill eu nodi o ganlyniad i hyn, bydd triniaeth briodol yn cael ei chynnig."

Ychwanegodd, "Mae'n anodd trosglwyddo TB. Mae angen cysylltiad agos a hir ag unigolyn heintus er mwyn i berson gael ei heintio.

"Yn yr achos hwn, ac i gyfyngu ar ledaeniad posibl yr haint, rydym yn trin yr holl ddisgyblion ac athrawon a allai fod wedi cael cyswllt â'r unigolyn fel cysylltiadau personol agos.

"Byddwn yn pwysleisio bod y risg o haint â TB i'r cyhoedd yn parhau'n isel iawn. Fodd bynnag, rydym yn annog rhieni, disgyblion ac aelodau o staff i fod yn ymwybodol o'r symptomau."

Symptomau

Mae symptomau TB gweithredol yn cynnwys:

  • Peswch parhaus sy'n para am fwy na thair wythnos ac sydd fel arfer yn creu fflem, a all fod yn waedlyd;

  • Colli pwysau;

  • Chwysu yn ystod y nos;

  • Tymheredd uchel (twymyn);

  • Blinder;

  • Colli archwaeth;

  • Chwyddo yn y gwddf.

Mae swyddogion yn annog unrhyw un sy'n gysylltiedig â'r ysgol a wedi profi unrhyw rai o'r symptomau hyn neu'n pryderu am eu hiechyd, i siarad â'u meddyg teulu neu ffonio Tîm Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 0300 00 300 32 (rhwng 09:00 a 17:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener).