Carcharu gofalwr o Fôn am ddwyn gan ddynes 93 oed

  • Cyhoeddwyd
Mandy MurphyFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Mandy Murphy ddwyn o gartref y ddynes oedrannus tra'r oedd hi yn yr ysbyty

Mae gofalwr o Ynys Môn wedi cael ei charcharu am 16 mis am wagio cyfrif banc dynes 93 oed oedd â chyflwr Alzheimer.

Fe wnaeth Mandy Murphy, 52, o Rosneigr gyfaddef ei bod wedi dwyn o gartref Winifred Egerton yn ardal Benllech tra'r oedd hi yn yr ysbyty.

Cafodd ei cherdyn banc ei gymryd, ac fe wnaeth Murphy ddwyn £9,210 o gyfrif y ddynes gyda'r Swyddfa Bost.

Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod Murphy bellach wedi talu'r arian yn ôl, gan ddweud mai'r ffaith ei bod yn gaeth i siopa oedd y rheswm.

'Creulon ac erchyll'

Roedd Murphy yn rhan o dîm o ofalwyr oedd wedi bod yn gyfrifol am Ms Egerton, sydd ddim yn gallu gadael ei gwely.

Merch Ms Egerton, oedd wedi darganfod y twyll ym mis Chwefror 2021, ddisgrifiodd yr hyn ddigwyddodd fel "creulon ac erchyll".

Dywedodd Richard Edwards, oedd yn amddiffyn Murphy, fod ei gleient yn edifar ac â chywilydd, a'i bod mewn dyled ac yn delio â gorbryder ac iselder ar y pryd.

Ond dywedodd y Barnwr Timothy Petts fod Murphy wedi "dwyn dwywaith cymaint ag oedd ei angen i dalu'r ddyled, er mwyn prynu anrhegion a charpedi".