Menyw 18 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
A4067
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y cerbyd adael y ffordd tra'n teithio ar hyd yr A4067 rhwng Abertawe a Godre'r Graig

Mae menyw 18 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar gyrion Abertawe yn oriau mân fore Sul.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod car Citroen C1 gwyn wedi gadael y ffordd tra'n teithio ar hyd yr A4067 rhwng Abertawe a Godre'r Graig toc cyn 01:30.

Yn ôl y llu bu farw menyw 18 oed yn y fan a'r lle, ac mae menyw arall 18 oed yn cael ei thrin yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Y gred yw nad yw anafiadau'r ail fenyw yn peryglu ei bywyd.

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un a welodd, neu sydd â lluniau dash-cam o'r digwyddiad neu'r modd roedd y car yn cael ei yrru cyn gadael y ffordd, i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig