Caerdydd i dalu am ddifrod cefnogwyr yn Bristol City

  • Cyhoeddwyd
Ashton GateFfynhonnell y llun, The Away Ends
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y toiledau yn ardal cefnogwyr Caerdydd yn stadiwm Ashton Gate eu difrodi ddydd Sadwrn

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi cynnig talu i drwsio'r difrod wedi i gefnogwyr oddi cartref fandaleiddio toiledau yn stadiwm Bristol City.

Cafodd lluniau o'r difrod i stadiwm Ashton Gate eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol yn dilyn y gêm rhwng y ddau glwb ddydd Sadwrn.

Fe gafodd darnau o'r to eu difrodi a'u tynnu o'u lle, ac achoswyd difrod i geblau hefyd.

Bristol City oedd yn fuddugol yn y gêm yn y Bencampwriaeth, a hynny o 3-2.

Ffynhonnell y llun, The Away Ends
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd lluniau o'r difrod i stadiwm Ashton Gate eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol