Galw am welliannau brys i ffordd A44 y canolbarth

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Ffordd yn 'peryglu bywyd ein hunain a bywydau pobl eraill'

Mae pobl sy'n byw ger ffordd fawr drwy'r canolbarth yn galw am "welliannau brys".

Yn ôl pobl leol, mae dwy set o oleuadau traffig dros dro wedi bod ar y ffordd yn rhy hir - gydag un set wedi bod yno ers dros dwy flynedd.

Cafodd yr A44 rhwng Llangurig ac Aberystwyth ei disgrifio ar un adeg fel un o'r ffyrdd mwyaf peryglus yn y DU.

Mae Llywodraeth Cymru, sy'n gyfrifol am gefnffyrdd fel yr A44, yn dweud bod y goleuadau traffig yno am resymau diogelwch yn dilyn pryderon am dirlithriadau.

'Rhwystredig iawn'

Yn 25 milltir o hyd mae'r ffordd yn cynnwys cyfres o droadau gan ei bod yn rhedeg trwy gadwyn o fynyddoedd Pumlumon.

Mae'n ffordd brysur ac mae'n cael ei defnyddio gan bob math o gerbydau gan gynnwys lorïau sy'n cludo nwyddau i ac o fusnesau yn Aberystwyth.

Ar hyn o bryd mae dwy set o oleuadau traffig dros dro yn agos at ei gilydd ger pentrefi Capel Bangor a Goginan - gydag un set o'r goleuadau wedi bod yn ei lle ers i wrthdrawiad achosi difrod i'r rhwystr ym mis Mehefin 2020.

Mae'r set arall wedi bod yno hyd yn oed yn hirach - a hynny yn dilyn pryderon am ddiogelwch ar ôl tirlithrad ym mis Tachwedd 2019.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Rhodri Davies yn galw am welliannau brys i'r heol

Mae'r Cynghorydd Rhodri Davies yn dweud bod rhwystredigaeth ymhlith pobl leol.

"Mae eisiau gwneud lot o waith ar yr hewl - efo'r traffic lights yma mae pobl yn mynd yn rhwystredig iawn, maen nhw wedi bod yna ers dros ddwy flynedd nawr ac mae pobl eisiau gwybod pryd mae'r gwaith yn mynd i gael ei wneud.

"Ni'n teimlo lan yn top y sir ein bod ni'n cael ein anghofio. Mae angen gwneud gwelliannau i'r ffordd yma."

'Pryderon yn dilyn tirlithriad'

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn ceisio dod o hyd i ddatrysiad i ddiffygion "cymhleth" y ffordd.

"Mae'r ddwy set o oleuadau traffig wedi'u codi am resymau diogelwch ffyrdd oherwydd pryderon am sefydlogrwydd llethrau ar ymyl y ffordd yn dilyn difrod gwrthdrawiad yng Nghapel Bangor a'r tirlithriad yn Ngoginan," dywedodd llefarydd.

"Ein bwriad yw cwblhau'r gwaith safle a chael gwared ar y goleuadau traffig dros dro ar ôl cwblhau'r gwaith yng Nghapel Bangor y flwyddyn ariannol hon."

Mae disgwyl i'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau yn ddiweddarach yn 2022.

Disgrifiad o’r llun,

Mae terfyn cyflymder y ffordd wedi gostwng i 50mya ers Mawrth 2021

Ers 1 Mawrth y llynedd, mae Llywodraeth Cymru wedi gostwng y terfyn cyflymder i 50mya rhwng Llangurig a Phonterwyd er mwyn gwella diogelwch.

Yn 2014, daeth adroddiad blynyddol Sefydliad Diogelwch y Ffyrdd i'r casgliad mai'r rhan hon o'r A44 oedd y bedwaredd ffordd fwyaf peryglus yn y DU.

Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ddata damweiniau rhwng 2010 a 2012 pan gafwyd 27 damwain angheuol neu ddifrifol.

Rhwng 2014-16 bu 12 damwain angheuol neu ddifrifol - disgynnodd y cyfanswm hwnnw i 11 rhwng 2017-19.

Mae data'r Sefydliad Diogelwch Ffyrdd yn dangos bod record diogelwch y ffordd wedi gwella ers hynny ac mae'r rhan hon o'r A44 bellach yn cael ei hystyried yn ffordd risg ganolig.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dafydd Jones yn ffermio ym mhentref Ponterwyd - ac yn dweud bod sawl problem ar yr A44

Mae'r ffermwr Dafydd Jones, sy'n byw ym mhentref Ponterwyd, yn defnyddio'r A44 yn gyson, gan ymuno â hi o'r ffordd i'w fferm gymaint â 10 neu 12 gwaith y dydd yn enwedig yn ystod y tymor wyna.

Mae'r gyffordd o'r fferm ger tro sydyn ac er mai 30mya yw'r cyfyngiad cyflymder ar y rhan yma o'r ffordd mae Dafydd yn dweud ei fod yn dal i boeni wrth ymuno â'r A44.

Mae hefyd yn dweud ei fod yn credu bod y cyfyngiad 50mya wedi gwneud ymuno â'r A44 yn anoddach.

"Mae e wedi gwneud mwy o ddrwg nag o les i drigolion yr ardal yma a bod yn onest. Achos nawr, pan 'da chi'n trio dod allan o'r junction yma, lle ro'ch chi'n arfer cael lori a rhywbeth rhwng deg a dwsin o geir tu ôl iddi, nawr dyw hi'n ddim byd i gael hanner cant o geir tu ôl y loriau yma achos dy'n nhw ddim yn gallu mynd heibio iddyn nhw.

"Problem arall ydy'r holl motorbikes sy'n dod lawr i Aberystwyth ar benwythnos yn yr haf a ddim 30 milltir yr awr maen nhw'n gwneud wrth ddod rownd y gornel, mae rhai yn gwneud 60," ychwanegodd.

"Mae 'na lot o broblemau ar yr hewl yma a dwi'n gobeithio'n arw iawn bod rhywbeth yn mynd i ddigwydd i'w gwella hi."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sawl troad ar hyd yr A44 o gwmpas mynyddoedd Pumlumon

Mae Rhodri Davies yn cydnabod bod rhai pethau wedi gwella ar yr A44 ond mae'n galw ar y llywodraeth i wneud mwy.

"Mae e wedi gwella i ryw raddau - gyda'r speed limit o 50mya dwi'n sylweddoli bod llai o ddamweiniau ond wedyn mae eisiau i ni edrych yn fanwl ar fwy o welliannau yn enwedig o Gapel Bangor lan i Bonterwyd.

"Mae'n hen bryd i'r gwaith gael ei wneud er mwyn gallu symud y goleuadau traffig oherwydd mae'r bobl yma yn teimlo fel eu bod yn cael eu gadael ar ôl, felly dwi'n annog y llywodraeth i wario arian ar yr A44."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn y broses o "gynnal astudiaeth o'r A44 rhwng Llangurig ac Aberystwyth" ac mai nod yr astudiaeth yw "mynd i'r afael â thagfeydd, effeithlonrwydd cyffyrdd a diogelwch ffyrdd".