Hosbisau Cymru i dderbyn £2.2m ychwanegol gan y llywodraeth

  • Cyhoeddwyd
Tŷ Gobaith
Disgrifiad o’r llun,

Mae hosbis Tŷ Gobaith, ar lannau Afon Conwy, yn costio tua £2.5m y flwyddyn i'w redeg

Bydd £2.2m ychwanegol ar gael i hosbisau fel rhan o adolygiad Llywodraeth Cymru ar ofal diwedd oes.

O ganlyniad bydd £888,000 yn mynd i'r ddwy hosbis blant, Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith, gyda'r gweddill ar gyfer gwasanaethau hosbis i oedolion ledled Cymru.

Yn ôl y Gweinidog Iechyd daw'r cyllid ar ben yr £13.8m a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r sector a chryfhau'r gwasanaethau cymorth mewn profedigaeth gydol y pandemig.

Cyn dyfodiad Covid-19 roedd tua dwy ran o dair o incwm hosbisau yn dod o weithgareddau codi arian, ond darparwyd arian ychwanegol i'w cynorthwyo yn sgil colli'r incwm yr oeddent yn arfer ei godi drwy weithgareddau elusennol.

Yn cyhoeddi'r cynllun diweddaraf, cadarnhaodd y gweinidog Eluned Morgan y bydd ail gam yn edrych ar ddarpariaeth gofal diwedd oes yn ehangach o fis Ebrill 2022 ymlaen.

"Mae hosbisau'n rhan hanfodol o'r gwasanaeth gofal iechyd yng Nghymru," meddai.

"Maen nhw'n darparu gofal hollbwysig i fwy na 20,000 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn sy'n cael eu heffeithio gan salwch terfynol, ac yn helpu i atal pobl rhag cael eu derbyn i'r ysbyty'n ddiangen.

"Ni fu erioed fwy o angen y gofal hwn nag yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Gydol y pandemig, mae hosbisau wedi bod yno i gefnogi cleifion, teuluoedd a gofalwyr drwy'r amser anoddaf iddynt ac o dan yr amgylchiadau anoddaf hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Agorodd Tŷ Hafan, ym Mro Morgannwg, yn 1999

Dywedodd prif weithredwr hosbis blant Tŷ Hafan, Maria Timon Samra, ei bod yn croesawu ymrwymiad y llywodraeth.

Ychwanegodd: "Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda nhw i greu Cymru sy'n fwy tosturiol a sy'n cefnogi plant â chyflyrau sy'n cyfyngu ar eu bywydau, a'u teuluoedd.

"Yn aml, ein hosbisau yw'r unig le y gallant dderbyn gofal a chymorth mewn argyfwng, a chael seibiant."

Disgrifiodd Andy Goldsmith, prif weithredwr hosbis Tŷ Gobaith, y cyllid ychwanegol fel "cam cyntaf mawr ymlaen o ran sicrhau bod y cymorth gwerthfawr y mae hosbisau plant yn ei ddarparu ar gael i bob plentyn a theulu sydd ein hangen".