Cwest: Dyn o Wynedd wedi marw ar ôl disgyn o feic dŵr yn Ghana

  • Cyhoeddwyd
Iwan GwynFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Iwan Gwyn yn briod ag Annie, yn dad i dri o blant ac yn rheolwr prosiect adeiladu ym mhrif ddinas Ghana, Accra

Mae cwest wedi clywed fod dyn o ogledd Cymru wedi marw ar ôl dod oddi ar feic dŵr yn Ghana.

Bu farw Iwan Gwyn, 49, o Lanaelhaearn ger Pwllheli yn wreiddiol, yn dilyn y digwyddiad ar afon yn Alorkpem ar 30 Rhagfyr.

Yn ôl yr awdurdodau yn Ghana, roedd Mr Gwyn wedi bod allan ar feic dŵr y diwrnod hwnnw a doedd o ddim wedi dychwelyd erbyn iddi dywyllu am tua 18:00.

Daeth i'r amlwg ei fod wedi dod yn rhydd o'r beic dŵr, a doedd dim modd ei achub.

Fe wnaeth ymchwiliad post-mortem cychwynnol yn Ghana ddod i gasgliad fod Mr Gwyn wedi marw o ganlyniad i dagu neu foddi, gyda phosibilrwydd hefyd o anaf i'r pen.

Cafodd y cwest ei ohirio gan uwch grwner dros dro Gogledd Orllewin Cymru, Kate Sutherland, wrth i ymchwiliadau yn Ghana barhau.

Pynciau cysylltiedig